Datblygu cysylltiadau gyda Tsieina
5 Gorffennaf 2016
Mae dirprwyaeth o Tsieina yn cychwyn ar raglen datblygiad proffesiynol 12 wythnos o hyd er mwyn dysgu rhagor am arwain a rheoli mewn Addysg Uwch.
Mae’r cwrs, a gyflwynir gan uwch-staff o Brifysgol Caerdydd, wedi'i gomisiynu gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina yn unol â Memorandwm Dealltwriaeth a lofnodwyd yn 2015 rhwng Prifysgol Caerdydd a Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina. Llofnodwyd y Memorandwm ym mhresenoldeb Dirprwy Brif Weinidog Tsieina, Madam LIU Yandong, yn ystod ei hymweliad â Chymru.
Yn ystod y rhaglen, bydd arweinwyr ar lefel ganolig ac uwch ar draws Tsieina yn dysgu rhagor am raglenni newid prifysgolion, rheoli adnoddau dynol, arddull arwain, datblygu timau academaidd a sut i ysgogi a gwobrwyo perfformiad o’r radd flaenaf.
Defnyddir enghreifftiau o arferion gorau gan Brifysgol Caerdydd ar draws y rhaglen. Bydd y rhain yn gymysgedd o gyflwyniadau gan Wasanaethau Proffesiynol y Brifysgol, sesiynau addysgu gan Ysgol Busnes Caerdydd a thîm Adnoddau Dynol y Brifysgol, yn ogystal â hyfforddiant iaith Saesneg.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys taith dywys o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, cyfleuster modern a agorwyd yn ddiweddar gan Ei Mawrhydi’r Frenhines. Ymwelir hefyd â phrifysgolion eraill a sefydliadau Cymreig gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, a gynhaliodd y cinio i groesawu’r dirprwyon: “Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu chi oll o gynifer o brifysgolion nodedig ledled Tsieina, gan gynnwys Prifysgol Xiamen – un o ddau bartner strategol byd-eang Caerdydd. Edrychwn ymlaen at feithrin perthynas newydd a phartneriaethau gyda chi."
Roedd Gweinidog Gwnselydd Shen Yang, o Lysgenhadaeth Tsieina yn bresennol yn y cinio hefyd. Yn ei sylwadau agoriadol, diolchodd i Brifysgol Caerdydd am ddatblygu’r rhaglen, a dymunodd y gorau i’r holl gynadleddwyr â’u hastudiaethau a’r cyfleoedd ar gyfer rhagor o gydweithio rhwng prifysgolion Tsieina a'r DU.
Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina. Mae 47 o gysylltiadau academaidd ffurfiol rhyngddynt yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.
Mae nifer cynyddol o gytundebau cyfnewid myfyrwyr gyda phartneriaid prifysgolion Tsieineaidd ar y gweill, ac mae nifer y myfyrwyr sy’n teithio o Gaerdydd i Tsieina yn cynyddu.
Mae’r Brifysgol wedi bod mewn partneriaeth â Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu ysgolheigion symud ymlaen o astudiaethau ôl-raddedig i uwch-swyddi academaidd.