Cwmni deillio o Medaphor o Gaerdydd yn ennill gwobr arloesedd
30 Mehefin 2016
Mae cwmni deillio MedaPhor o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr Busnes Technoleg ac Arloesedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2016.
Cafodd MedaPhor – darparwr byd-eang o beiriannau efelychu ar gyfer hyfforddiant uwchsain i feddygon proffesiynol – ei enwebu ar restr fer yn erbyn tri chwmni technoleg arall o Gaerdydd: Circle IT, Net Support UK a Zipporah.
Sefydlwyd y cwmni yn 2004, ac yng Nghaerdydd a San Diego y mae ei bencadlys. Mae ganddo gwsmeriaid mewn dros 16 o wledydd ar draws y byd.
Yn ddiweddar, daeth i gytundeb â'r Bwrdd Obstetreg a Gynaecoleg Americanaidd i ddefnyddio ScanTrainer uwchsain MedaPhor mewn dros 2,000 o arholiadau tystysgrif obstetreg a gynaecoleg ar draws yr Unol Daleithiau bob blwyddyn.
Dywedodd sylfaenydd a chyfarwyddwr meddygol anweithredol MedaPhor, yr Athro Nazar Amso: "Rydyn ni'n hynod o falch o dderbyn y wobr fawreddog hon sy'n cydnabod cyflawniadau MedaPhor. Mae'n deillio o waith caled pob un o'n tîm i wireddu ein gweledigaeth ac arwain y maes mewn addysg a hyfforddiant uwchsain drwy gyfrwng technoleg efelychu arloesol. Rydym yn falch o gael ein geni a'n magu yng Nghaerdydd."
Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Mae gan MedaPhor dros 200 o systemau wedi'u gosod mewn ysbytai ledled y byd a chyda cyfieithiadau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Mandarin, Siapaneg a Rwsieg, mae'r nifer yn parhau i ehangu.
"Mae gwerthiant MedaPhor wedi tyfu'n aruthrol ac mae gan y cwmni bellach dros 30 o weithwyr yn y DU a Gogledd America, ac 16 o gytundebau ailwerthu ar draws Ewrop, Asia ac Awstralasia. Mae'r wobr hon yn dathlu rhagoriaeth fyd-eang, a’r graddau y mae arloesedd Caerdydd yn ymestyn ar draws y byd."
Mae'r fuddugoliaeth yn cyd â Haf Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sy’n dwyn ynghyd academyddion, myfyrwyr a'r sectorau cyhoeddus a phreifat mewn cyfres o ddigwyddiadau i gryfhau partneriaethau presennol a throi rhagoriaeth ymchwil yn atebion go iawn.