Anturiaethau newydd yn y Wladfa
29 Mehefin 2016
Dwy fyfyrwraig yn cipio ysgoloriaethau Santander am fis o brofiad gwaith ym Mhatagonia
Mae Elin Arfon, a Mannon Thomas, myfyrwyr blwyddyn dau wedi cychwyn ar fis o brofiad gwaith yn Chubut, Patagonia, dan nawdd Banc Santander.
Yn gynharach yn y gwanwyn, cynigodd yr Ysgol dwy ysgoloriaeth, gwerth £3,000 yr un, i alluogi myfyrwyr israddedig i deithio i’r Wladfa ac ymgymryd â phrofiad gwaith amrywiol gydag ysgolion, dosbarthiadau iaith a chymunedau’r ardal.
Hedfanodd Elin a Mannon i Dde America ar 10 Mehefin 2016.
Bydd y ddwy fyfyrwraig yn cynorthwyo gwaith Cynllun yr Iaith Gymraeg, sydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Dywedodd Dr Jonathan Morris, cydlynydd yr Ysgoloriaethau yn Ysgol y Gymraeg: “Dyma gyfle arbennig i ymweld â’r Wladfa a phrofi awyrgylch a threftadaeth unigryw’r ardal. Caiff Elin a Mannon y cyfle i hyrwyddo’r iaith Gymraeg wrth ddysgu Cymraeg i rai o drigolion Chubut a chyfrannu at y gymuned ehangach. Dwi’n gwybod bydd Elin a Mannon yn ddau lysgennad perffaith dros yr Ysgol, y Brifysgol a Chymru.”