Academi Ewropeaidd yn dyfarnu Medal Erasmus i'r Arglwydd Martin Rees
27 Mehefin 2016
![Lord Martin Rees](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/367937/Lord-Martin-Rees.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r Academia Europaea wedi dyfarnu Medal Erasmus 2016 i'r Seryddwr Brenhinol yr Arglwydd Martin Rees yn ei chyfarfod a’i chynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd.
Cyflwynwyd y wobr i'r Arglwydd Rees am ei gyfraniad sylweddol a'i lwyddiannau'n ymwneud â gwyddoniaeth Ewropeaidd dros gyfnod sylweddol o amser.
Mae'r Arglwydd Rees, y Seryddwr Brenhinol ar hyn o bryd, a chyn Lywydd y Gymdeithas Frenhinol, wedi gwneud gwaith damcaniaethol dylanwadol ar bynciau mor amrywiol â ffurfio tyllau du a ffynonellau radio all-alaethol, ac wedi cyflwyno tystiolaeth allweddol i wrth-ddweud y ddamcaniaeth Cyflwr Cyson ynghylch esblygiad y Bydysawd.
Yr Arglwydd Rees hefyd oedd un o'r cyntaf i ragweld dosbarthiad anghyson mater yn y Bydysawd, a chynigiodd brofion arsylwadol i bennu clystyrau sêr a galaethau.
Yn ogystal â'r wobr, bydd yr Arglwydd Rees yn traddodi Darlith glodfawr Erasmus, a'r teitl 'From Mars to the Multiverse' yn y gynhadledd a gynhelir yn Adeilad Haydn Ellis Prifysgol Caerdydd ddydd Llun 27 Mehefin.
Cyn y digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Rees: "Rwyf i wrth fy modd i gael fy newis i draddodi Darlith Erasmus eleni. Mae seryddiaeth a gwyddor y gofod yn bynciau lle mae cydweithio ar draws Ewrop wedi bod yn gryf ac effeithiol, felly mae'n arbennig o briodol fy mod yn siarad amdanyn nhw yng nghynhadledd Academia Europaea."
Cynhelir 28ain Cynhadledd Flynyddol yr Academia Europaea yng Nghaerdydd am y tro cyntaf, a bydd yn dod â rhai o'r meddyliau craffaf yn Ewrop ym meysydd y dyniaethau a'r gwyddorau at ei gilydd.
Sefydlwyd yr Academia Europaea yn 1988, ac mae'n gweithredu fel academi Ewrop gyfan gyda thros 3000 o aelodau, gan gynnwys dros 50 o enillwyr Gwobr Nobel, sy'n wyddonwyr ac ysgolheigion blaenllaw ac sy'n cydweithio i hyrwyddo ymchwil, dysgu ac addysg.
Mae'r Academi yn gweithredu drwy rwydwaith o ganolfannau rhanbarthol yn Barcelona, Wroclaw a Bergen, a chaiff pedwaredd canolfan a leolir ym Mhrifysgol Caerdydd ei lansio’n ffurfiol yn ystod y gynhadledd.
Un o uchafbwyntiau'r gynhadledd eleni fydd trafodaeth ar fecanweithiau cyngor gwyddonol, gyda Syr Mark Walport, Prif Gynghorydd Gwyddonol y DU, yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru a Dr Johannes Klumpers, Pennaeth Uned Mecanwaith Cyngor Gwyddonol y Comisiwn Ewropeaidd.
Dywedodd yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Wybodaeth Caerdydd ac Is-Lywydd Academia Europaea: "Drwy'r Ganolfan Wybodaeth newydd, bydd gan Gaerdydd lais sylweddol a fydd yn darparu cyngor gwyddonol ar sail tystiolaeth i wneuthurwyr polisi Ewropeaidd, gan gyfoethogi proffil y Brifysgol yng Nghymru, gweddill y DU ac ar draws Ewrop."
Mae Cynhadledd Academia Europaea yn rhan o Haf Arloesedd Prifysgol Caerdydd - tymor o arddangos y gorau o waith y Brifysgol i droi rhagoriaeth yn atebion yn y 'byd real'.