Blant yn yfed diodydd chwaraeon yn ddiangen
27 Mehefin 2016
Mae cyfran uchel o blant 12-14 oed yn yfed diodydd chwaraeon yn rheolaidd gymdeithasol, gan gynyddu eu risg o ordewdra ac erydu dannedd, yn ôl arolwg gan Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd.
- Mae 89% o blant ysgol yn yfed diodydd chwaraeon gyda 68% yn eu hyfed yn rheolaidd (1-7 gwaith yr wythnos)
- Mae diodydd chwaraeon yn cael eu prynu gan blant mewn siopau lleol am brisiau isel
Cyhoeddwyd yr arolwg heddiw yn y British Dental Journal, ac mae’n edrych ar 160 o blant mewn pedair ysgol ar draws De Cymru ac mae wedi dod i'r casgliad bod plant yn cael eu denu at ddiodydd chwaraeon oherwydd eu blas melys, eu pris isel a’u hargaeledd, gyda'r rhan fwyaf o'r rhieni a'r plant yn anymwybodol na fwriadwyd diodydd chwaraeon i’w hyfed gan blant.
Roedd hanner y plant a arolygwyd yn honni yfed diodydd chwaraeon yn gymdeithasol ac roedd mwyafrif (80%) yn eu prynu mewn siopau lleol. Honnodd y mwyafrif (90%) hefyd fod blas yn ffactor a dim ond 18% oedd yn honni eu hyfed oherwydd yr effaith canfyddedig eu bod yn gwella perfformiad. Pris oedd un o'r tri phrif reswm a gofnodwyd ar gyfer prynu ac, o bryder penodol, nododd 26% o blant fod canolfannau hamdden yn ffynonellau prynu hefyd.
Dywedodd Maria Morgan, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae pwrpas diodydd chwaraeon yn cael ei gamddeall ac mae’r astudiaeth hon yn dangos yn glir tystiolaeth o blant oedran ysgol uwchradd yn cael eu denu at y diodydd hyn sy’n llawn siwgr a lefel pH isel, gan arwain at risg gynyddol o dyllau deintyddol, erydu enamel a gordewdra.
"Dylai gweithwyr proffesiynol iechyd deintyddol fod yn ymwybodol o boblogrwydd diodydd chwaraeon ymhlith phlant wrth roi cyngor neu addysg iechyd neu ddylunio mentrau hybu iechyd."
Mae’r Gyfadran Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer Corff (FSEM) yn galw am reoliadau tynnach o ran pris, argaeledd a marchnata chwaraeon diodydd i blant, yn enwedig o amgylch ardal yr ysgol, i ddiogelu iechyd cyffredinol a deintyddol.
Dywedodd Dr Paul D Jackson, Llywydd FSEM DU: "Mae cyfran y plant yn yr astudiaeth hon sy'n yfed diodydd carbohydrad uchel, sydd wedi'u cynllunio ar gyfer chwaraeon, yng nghyd-destun hamdden heb fod yn gysylltiedig â chwaraeon yn peri pryder.
"Bwriadwyd diodydd chwaraeon ar gyfer athletwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon dwys a dygn, maent hefyd yn gysylltiedig â phydredd dannedd mewn athletwyr a dylid eu defnyddio yn dilyn cyngor gan dimau deintyddol a gofal iechyd sy’n ymroddedig i ofalu am athletwyr. Mae dŵr neu laeth yn ddigon i hydradu plant egnïol, mae diodydd chwaraeon siwgr uchel yn ddiangen ar gyfer plant a'r rhan fwyaf o oedolion."
Ychwanegodd Russ Ladwa, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwyddoniaeth Cymdeithas Ddeintyddol Prydain: "Mae cynnydd chwaraeon diodydd fel opsiwn diodydd meddal arall yn unig ymhlith plant yn achosi pryder go iawn, a rhaid i'r rhieni a Llywodraeth gymryd sylw. Maent yn llawn asidau a siwgrau, a gallent fod tu ôl i'r problemau pydredd rydym bellach yn gweld ymysg pêl-droedwyr blaenllaw.
"Yn anaml y mae diodydd chwaraeon yn ddewis iach, ac mae eu marchnata i boblogaeth gyffredinol, a phobl ifanc yn arbennig, yn anghyfrifol tu hwnt. Gallai athletwyr elît gael rheswm i'w defnyddio, ond ar gyfer bron pawb arall maent yn cynrychioli risg wirioneddol i iechyd eu ceg a'u hiechyd cyffredinol."
Daeth yr arolwg i'r casgliad hefyd y ceir dryswch yn enwedig ynghylch y diffiniad o ddiod chwaraeon yn erbyn diod egni. Fodd bynnag, o safbwynt iechyd deintyddol ac yn ehangach, mae’r ddau fath o ddiodydd hyn yn cael effeithiau andwyol tebyg oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o siwgr a pH isel.
Mewn archfarchnadoedd a siopau, mae diodydd chwaraeon yn aml yn cael eu gwerthu ochr yn ochr â diodydd eraill melys â siwgr. Mae hyn yn gamarweiniol i blant a rhieni drwy awgrymu eu bod wedi’u bwriadu i gael eu defnyddio gan bawb.
Mae’r astudiaeth – A survey of sports drinks consumption amongst adolescents – wedi’i gyhoeddi yn y British Dental Journal.