Dinasyddion Prydain yn poeni am eu gweithgarwch ar-lein ymhlith pryderon bod y wladwriaeth yn eu goruchwylio
24 Mehefin 2016
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, mae dinasyddion Prydain yn poeni am eu gweithgarwch ar-lein yn dilyn sgîl-effeithiau datguddiadau Snowden, gyda phryderon bod y Wladwriaeth yn eu goruchwylio.
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd a arweiniodd y gwaith hwn. Hon oedd yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o'i math am oblygiadau datguddiadau Snowden, a dangosodd fod gan ddinasyddion ffyrdd amrywiol o ddygymod â nhw.
Dywedodd Prif Ymchwilydd y prosiect, Dr Arne Hintz o Brifysgol Caerdydd: "Ceir cryn drafod ar hyn o bryd am 'effaith iasol' gwaith goruchwylio, ac mae ein gwaith ymchwil wedi amlygu rhai pryderon o bwys. Maent yn arbennig o ddifyr o ystyried pa mor ddadleuol yw'r bil arfaethedig am Bwerau Ymchwilio yn y DU.
Ychwanegodd Dr Lina Dencik, o Brifysgol Caerdydd: "Mae'n amlwg bod dinasyddion, yn enwedig y rhai o leiafrifoedd ethnig, yn ymddwyn yn ofalus ac yn osgoi gwleidyddiaeth y gellid eu hystyried yn rhy 'radical' neu'n ddadleuol.
"Yn ôl pob sôn, nid yw dinasyddion yn poeni am wyliadwriaeth, ond mae ein grwpiau ffocws yn dangos nad yw hynny'n wir - maent yn teimlo'n ddi-rym ac maent wedi addasu eu hymddygiad digidol o'r herwydd yn dilyn datguddiadau Snowden.”
Dengys y gwaith ymchwil hefyd bod y cyfryngau wedi cyfiawnhau gwyliadwriaeth dorfol drwy rethreg sy'n gysylltiedig â therfysgaeth a diogelwch gwladol, ac mai dim ond ar flogiau a'r cyfryngau anhraddodiadol y ceir dadleuon yn erbyn hynny.
"Yn rhyfedd iawn, mae hyn yn cyferbynnu â barn llawer o newyddiadurwyr ynghylch gwyliadwriaeth", dywedodd yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Prifysgol Caerdydd.
Mae datguddiadau Snowden wedi sbarduno datblygiadau parhaus i ddeddfwriaeth gwyliadwriaeth yn y DU, a datblygiadau mewn safonau technolegol newydd sy'n diogelu preifatrwydd. Fodd bynnag, dengys yr ymchwil fod buddiannau'r gymdeithas sifil a gwarchodaeth hawliau dynol wedi'u hesgeuluso i raddau helaeth.
Mae'r ymchwil arloesol a gynhaliwyd yn ystod y 18 mis diwethaf - Dinasyddiaeth Ddigidol a Chymdeithas o dan Wyliadwriaeth y Gymdeithas: Perthynas y Cyfryngau â Gwladwriaeth y DU yn Dilyn Datguddiadau Snowden - yn ystyried yr effeithiau, yr heriau a'r chyfleoedd a ddaw yn sgîl datguddiadau'r chwythwr chwiban gan edrych ar bedwar maes allweddol: cyfryngau'r newyddion a newyddiaduriaeth; cymdeithas sifil a gweithredu; diwygio polisïau; a thechnoleg.
"Mae'r rhyngrwyd wedi caniatáu i ffurfiau newydd o ddinasyddiaeth ddigidol a democratiaeth ar-lein ddod i'r amlwg. Mae ein gwaith ymchwil hefyd yn dangos ei fod wedi arwain at lefelau gwyliadwriaeth nas gwelwyd erioed o'r blaen, gyda goblygiadau pellgyrhaeddol a sylweddol ar hawliau sifil, trafodaeth gyhoeddus, ac ymgysylltiad democrataidd, a bod hynny'n peri gofid," ychwanegodd Dr Hintz.
Cyhoeddir ffrwyth yr ymchwil yn y Sefydliad Peirianneg Mecanyddol yn Llundain am 1pm, 27 Mehefin. Yn dilyn y cyflwyniad bydd cyfres o weithdai i drafod goblygiadau canlyniadau'r ymchwil gydag ysgolheigion, llunwyr polisïau, ymgyrchwyr cymdeithas sifil a chynrychiolwyr y diwydiant.