Dwy wobr gyntaf i Panalpina yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith 2016
23 Mehefin 2016
Mae prosiect sy'n helpu busnesau i ragfynegi'r galw am gynhyrchion wedi'i goroni’n 'Ddewis y Bobl' yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd.
Aeth y gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd gyda'r cwmni logisteg byd-eang a danfon nwyddau Panalpina ati i ddod o hyd i'r 'fformiwla gudd' ar gyfer stocrestrau 'darbodus'.
Roedd Ysgol Fusnes Caerdydd wedi ymuno gyda'r cwmni i ddatblygu offeryn meddalwedd sy’n gallu rhagfynegi galw a ragwelir a phenderfynu stocrestrau isafswm ar gyfer busnesau.
Pleidleisiodd fwy na 170 o bobl ar gyfer y prosiect mewn cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol 'Dewis y Bobl', gan ei wneud yn enillydd cyffredinol y Gwobrau, a noddir gan Grŵp IP, Symbiosis IP Cyf a Blake Morgan.
Mae Maria Pia Caraccia, gweithiwr Panalpina yn Efrog newydd, yn ennill oriawr Smart Pebble am bleidleisio ar gyfer y prosiect a darparu ateb buddugol sy’n canmol gwaith ei chyfaill a chydweithiwr Nicole Ayiomamitou.
Roedd ateb buddugol Maria yn egluro: "Mae Nicole yn helpu i newid y ffordd rydym yn gwneud logisteg. Stocrestr yw un o'r heriau mwyaf anodd i ni reoli. Mae'r offeryn hwn yn ei gadw ei syml, clir a gweladwy. Bydd yr arloesi yn gwella byd y stocrestr a chyflenwi yn llythrennol!"
Ffurfiwyd y fenter arloesol drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) oedd yn galluogi mynediad i Panalpina i gydweithio gydag academydd blaenllaw o Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd.
Gan gyflwyno Gwobr Dewis y Bobl i Panalpina ac Ysgol Busnes Caerdydd, dywedodd Mark Wilson, Is-Lywydd Gweithredol a Phrif Swyddog Ariannol Aston Martin Lagonda Cyf: "Roedd y prosiect yn dwyn academyddion Caerdydd ynghyd â busnes byd-eang i ddatblygu offeryn meddalwedd sydd wedi helpu Panalpina i gwtogi stocrestrau cleientiaid a lleihau'r costau logisteg, wrth gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae'n enghraifft glasurol o'r math o arloesi y mae'r Aston Martin ymfalchïo ynddo."
Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, deiliad Cadair mewn Ymchwil Gweithrediadol a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, "Mae hon yn fuddugoliaeth wych ar gyfer prosiect gwych. Bydd yn gyfraniad pwysig i weithrediad busnesau. Mae wedi galluogi’r Brifysgol i weld gwybodaeth a grëwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn cael eu lledaenu ar draws Panalpina ac ymlaen i’w cwsmeriaid."
Dewiswyd enillydd Dewis y Bobl drwy bleidlais gyhoeddus a drefnwyd drwy gyfryngau cymdeithasol. Roedd dros 360 o bleidleisiau. Yn ogystal, enillodd prosiect Panalpina y wobr Arloesedd Busnes, a dathlwyd llwyddiant pedwar prosiect buddugol arall yn y Seremoni Wobrwyo hefyd.
Partneriaeth sy'n datblygu cyffur newydd ar gyfer canser metastatig y fron sydd wedi ennill y Wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd. Mae'r fenter, dan arweiniad tîm cydweithredol o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yng Nghaerdydd, yn cyfuno arbenigedd academaidd mewn datblygu cyffuriau a bioleg canser gyda phrofiad cwmnïau biotechnoleg ailstrwythuro.
Mae gwaith i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru wedi sicrhau’r Wobr Effaith ar Bolisi. Bu’r Athro Emma Renold a Dr Amanda Robinson o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ffurfio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Buon nhw'n cydweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, i ddylanwadu ar y broses ddeddfu.
Enillodd ymchwil arloesol sydd wedi gweld cynnydd dramatig yn y nifer o bobl ddigartref sy'n derbyn cymorth bob blwyddyn yng Nghymru y Wobr Effaith Gymdeithasol. Arweiniodd gwaith gan Dr Peter Mackie, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Caerdydd, awdurdodau lleol i newid y modd y caiff pobl ddigartref eu helpu yng Nghymru, gan ddarparu gwybodaeth yn uniongyrchol i Ddeddf Tai Cymru 2014.
Ac mae prosiect sy’n harneisio pŵer aur fel catalydd masnachol wedi sicrhau’r Wobr Effaith Rhyngwladol. Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Cemeg, dan arweiniad yr Athro Graham Hutchings, wedi cydweithio â Johnson Matthey (JM), cwmni cemegau arbenigol rhyngwladol, i ddyfeisio catalydd aur sydd â'r potensial i ddisodli catalyddion mercwri niweidiol sy'n cael eu defnyddio wrth gynhyrchu PVC.
Mae’r gwobrau yn rhan o Haf Arloesedd Caerdydd. Yn rhedeg tan ddechrau mis Hydref 2016, mae’r dathliadau tymhorol yn taflu goleuni ar bartneriaethau a phrosiectau ymchwil y Brifysgol.