Gwyddonwyr Caerdydd yn cyd-greu biosynhwyrydd 'rhybudd cynnar' ar gyfer diabetes
17 Mehefin 2016
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i ddatblygu biosynhwyrydd sy'n rhoi 'rhybudd cynnar' ar gyfer diabetes Math 2, gan gynnig cyfle euraidd i ddioddefwyr newid eu ffordd o fyw ac atal y clefyd neu ei ohirio.
Mae'r system diagnostig newydd, sy'n cael ei chreu gan Brifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Caerdydd, yn gallu mesur moleciwlau penodol yn y gwaed sy'n rhagfynegi arwyddion o ddiabetes. Gyda lwc, bydd y dechnoleg yn helpu i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â diabetes Math 2, yn ogystal â'r gost i'r GIG, sydd ar hyn o bryd bron yn £10 miliwn y dydd. Y clefyd hwn – sy'n effeithio ar tua pedair miliwn o bobl yn y DU yn unig – yw'r pumed achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ar draws y byd.
Byddai'r biosynhwyrydd newydd, a fyddai'n gweithio fel prawf pigo bys syml, yn rhoi gwybod i bobl pa mor debygol yr ydynt o ddatblygu diabetes Math 2 yn ystod y pum mlynedd nesaf. Yn ôl y gwyddonwyr, byddai'r ymyrraeth gynnar hon yn rhoi digon o amser i wneud yr addasiadau hanfodol mewn diet a ffordd o fyw.
Mae'r dechnoleg yn cyfuno defnyddiau tebyg i we pryf copyn a sianeli hylif bychain ar ffurf stribed plastig i'w daflu ar ôl ei ddefnyddio. Mae'r 'deunydd nano' hwn wedi'i addasu i hysbysu'r defnyddiwr pan ddaw i gysylltiad â gwaed sy'n cynnwys mwy o grynodiadau rhai moleciwlau rhagfynegol, neu 'biomarcwyr', nag sy'n gyffredin i unigolyn, ac sy'n arwydd cynnar o ddiabetes Math 2.
Mae prototeip yn cael ei ddatblygu yn rhan o waith a ariannwyd gan Gyngor Cyfleusterau Technoleg a Gwyddoniaeth a Llywodraeth Cymru.
Meddai'r Athro Ian Weeks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae sawl biomarciwr newydd ar gyfer gwahanol glefydau yn cael eu darganfod o ganlyniad i ymchwil barhaus, ond datblygu dulliau sy'n gallu eu mesur yn rhwydd ac yn gywir yw'r her.
"Yn ogystal â gwneud diagnosis o'r glefyd, mae'r rhain yn arbennig o bwysig ar gyfer rhagfynegi a chynnig prognosis o'r clefyd. Maent hefyd yn bwysig o safbwynt 'meddygaeth fanwl' sy'n rhoi asesiad mwy cywir o ba driniaeth fyddai orau i gleifion." Dywedodd Bob Stevens, Athro mewn Deunydd a Dyfeisiau Clyfar yn Ysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Nottingham Trent: "Oherwydd ffactorau megis pobl yn byw'n hirach, gordewdra, ac arferion byw nad ydynt yn annog llawer o symud, mae nifer y bobl â diabetes Math 2 yn cynyddu saith y cant bob blwyddyn.
"Mae'n hynod o bwysig bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem iechyd enfawr hon, a bydd y dechnoleg yma yn ein cynorthwyo i wneud gwahaniaeth. Gallwn roi cyfle i bobl newid eu deiet, eu ffordd o fyw a rhoi gwell siawns iddynt heneiddio'n iachus. Yn ogystal, gallai gynnig arbedion enfawr i'r GIG."