Canolfan gymunedol newydd yn Grangetown
16 Mehefin 2016
![Grangetown Bowling Pavillion](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/359070/Grange-pavilion.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau bod pafiliwn bowlio segur yn Grangetown yn cael bywyd newydd fel canolfan gymunedol.
Mae prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol a’r partneriaid cymunedol Prosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown yn lansio Pafiliwn Grange fel gofod dros dro ar gyfer gweithgareddau'r Brifysgol yn y gymuned.
Mae’r pafiliwn, sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd, wedi bod yn wag ers 2014, a bellach mae gan y Brifysgol drwydded 12 mis dros dro ar ei gyfer.
Meddai Mairead Collett, sy’n byw yn Grangetown ac yn aelod o Brosiect Pafiliwn Grange: "Rydym wrth ein bodd bod caeadau a drysau’r pafiliwn yn mynd i agor ar ôl nifer o flynyddoedd.
"Mae wedi bod yn ddolur llygad yng Ngerddi Grange, wedi’i gau ac yn anhygyrch tu ôl i gatiau caeedig yn rhy hir.
"Mae wedi bod yn frwydr i gyrraedd y man lle rydym ni nawr, ond rydym ni’n gyffrous am yr adeilad a sut gall ddechrau bod yn fan cyfarfod bywiog ac yn ardd gymunedol, fel roeddem ni wedi rhagweld.”
Cynhelir y lansiad swyddogol yng Ngŵyl Grangetown ar 18 Mehefin am 12:00.
![Vale College students](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0019/358111/grangetownpic2.jpg?w=575&ar=16:9)
Mae mân welliannau wedi’u gwneud i’r adeilad i wella’i olwg ar gyfer cyfnod y drwydded dros dro, gyda chymorth N & M Construction, y Pensaer Dan Benham a myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar y gwaith adnewyddu fel rhan o'u hastudiaethau.
Mae IKEA Caerdydd hefyd wedi dangos diddordeb mawr yn y ganolfan gymunedol ac wedi cefnogi'r fenter drwy gyfrannu cegin newydd sbon.
Dywedodd John Ennis, o Goleg Caerdydd a'r Fro (CAVC): "Mae CAVC yn credu’n angerddol mewn ymgysylltu a datblygu cysylltiadau cymunedol ac roedd y prosiect hwn yn gyfle delfrydol.
"Mae'r gwaith yn y pafiliwn yn gyfle gwerthfawr i’n dysgwyr gael hyfforddiant yn y gwaith a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau bywyd go iawn a allai eu helpu i gael gwaith cyflogedig.
"Ar y cyfan mae’r dysgwyr yn cael hwyl wrth ddatblygu eu sgiliau a’u hyder drwy weithio fel tîm neu yn unigol."
Ar ddiwrnod y lansio bydd myfyrwyr o Ysgol Bensaernïaeth Cymru yn arddangos rhai o'r syniadau a allai ddigwydd ar y safle.
![Grange Gardens](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/358096/Grangegardenspic.jpg?w=575&ar=16:9)
Meddai Mhairi McVicar, Arweinydd Academaidd y Porth Cymunedol: "Pobl o fewn y gymuned gafodd y syniad o roi bywyd newydd i’r pafiliwn, gan eu bod am gael lle canolog oedd yn hygyrch i bawb.
"Mae'n wych gweld hynny’n cael ei wireddu. Bydd yn ased gwirioneddol ar gyfer Grangetown, ond mewn llawer o ffyrdd dechrau’n unig y mae’r gwaith.
"Y camau nesaf fydd clywed syniadau pawb ynghylch sut mae gwneud y defnydd gorau o’r adeilad yn y tymor hir, a sut mae cefnogi cynnig am Drosglwyddo Asedau Cymunedol.”
Mae gweithgareddau 'sydyn’ eisoes wedi cael eu cynnal yn y pafiliwn, gan gynnwys digwyddiad adrodd straeon, caffe athroniaeth, diwrnod iechyd meddwl a llesiant a ffair aeaf.
Y nod bellach yw sefydlu rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau dan arweiniad y gymuned a allai gynnwys gweithdai cymunedol, hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a grwpiau mam a baban, yn ogystal â digwyddiadau partneriaeth Cymuned Grangetown a Phrifysgol Caerdydd.
Bydd tîm y Porth Cymunedol wedi’u lleoli yn y pafiliwn, ochr yn ochr â Gweithredu Cymunedol Grangetown.
Meddai Ashley Lister, Ysgrifennydd Gweithredu Cymunedol Grangetown: "Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â thîm y Porth Cymunedol ar un arall o’u prosiectau mynediad.
"Cafwyd pleser gwirioneddol o weithio gyda’r trigolion sydd wedi dod â’r prosiect hwn yn fyw. Mae eu hymrwymiad, eu hymdrech a’u brwdfrydedd ynghylch y pafiliwn wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac wedi dangos beth gall cymuned ei gyflawni os yw’n ffocws i’r galon a’r meddwl.”
Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau. Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a llesiant.
Dylai unrhyw un sydd â syniadau ynghylch sut gellid defnyddio’r pafiliwn yn ystod y 12 mis nesaf ac yn y tymor hwy gysylltu â’r Porth Cymunedol ar communitygateway@cardiff.ac.uk neu 029 2087 0532.