Newid er gwaeth, nid er gwell
14 Mehefin 2016
Y rhanbarthau gwrth-Ewropeaidd ledled y DU fyddai fwyaf ar eu colled o ganlyniad i adael yr UE, yn ôl ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.
Fel rhan o brosiect Arbenigo'n Ddeallus ar gyfer Arloesedd Rhanbarthol (SmartSpec), a arweinir gan yr Athro Kevin Morgan o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio'r Brifysgol, bu tîm o ymchwilwyr yn cymharu data am allbwn economaidd rhanbarthol y DU â rhannau eraill o'r UE. Defnyddiwyd hefyd wybodaeth o Arolwg Etholiad Prydain sy'n holi pobl sut maent am bleidleisio yn refferendwm yr UE.
Yn ôl y canlyniadau, mae Llundain a'r Alban - yr ardaloedd sydd fwyaf o blaid yr UE yn y DU - yn llai integredig ag economi'r UE na'r DU ar gyfartaledd. Yn y cyfamser, y tu allan i ardaloedd ffyniannus de-ddwyrain Lloegr, mae siroedd gwledig fel Gogledd Swydd Efrog a Dorset, a'r rhai mwy trefol, fel Gorllewin Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn, yn fwy integredig â'r UE, ac maent hefyd yn tueddu i fod yn fwy gwrth-Ewropeaidd.
Yn ôl y papur, a luniwyd gan John Springford, Philip McCann, Bart Los a Mark Thissen: "Mae'r ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr UE wedi dangos eu bod am siarad am fewnfudo rhwng nawr a'r refferendwm. Mae'r pwyslais cyson hwn ar fewnfudo yn golygu bod y cyhoedd bob amser yn clywed y dybiaeth gyffredin, ond anghywir, bod mewnfudo yn gwneud cyflogau'n is ac yn pentyrru'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhai sydd am adael yr UE wedi portreadu'r rhai sydd o blaid aros fel Llundeinwyr cyfoethog sy'n byw mewn byd gwahanol i bawb arall.
"Mae'r ddelwedd mai crachach cyfoethog o Lundain yw'r rhai sy'n elwa fwyaf ar integreiddio o fewn yr UE, yn neges sydd wedi'i chroesawu'n bennaf mewn rhanbarthau y tu allan i Lundain sydd wedi wynebu amser caled ers yr argyfwng ariannol yn 2008. Yr eironi, fodd bynnag, yw mai'r rhanbarthau hyn, ac nid Llundain a'i hardaloedd cyfagos, fyddai fwyaf ar eu colled o ganlyniad i adael yr UE."
Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu mai agwedd rhanbarth at fewnfudo sy'n llywio teimladau gwrth-Ewropeaidd, yn hytrach na dangosyddion traddodiadol fel oedran neu addysg. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi bod llai o fewnfudwyr yn yr ardaloedd hyn fel arfer o'u cymharu â rhanbarthau sydd o blaid yr UE - a bod ganddynt lawer fwy i'w golli o ganlyniad i adael yr UE, gan fod eu heconomïau wedi'u hintegreiddio'n agosach â'r UE.
Mae awduron yn rhybuddio: "Ar lefel genedlaethol, mae'r refferendwm fel petai'n cynnig dewis syml: gadael er mwyn cael llai o fewnfudo, neu aros er mwyn diogelu'r economi. Ond nid oes gan rhanbarthau gwrth-Ewropeaidd ddewis o'r fath: drwy bleidleisio i adael yr UE, i Lundain a dinasoedd eraill y bydd pobl yn mewnfudo'n bennaf - gan niweidio economi eu rhanbarth eu hunain yn sgîl hynny."
Ychwanegodd yr Athro Kevin Morgan o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Mae'r ymchwil yn dangos y byddai gadael yr UE yn drychinebus i rai o ardaloedd tlotaf y DU. Mae'r rhai sy'n ymgyrchu i adael yr UE yn naïf ac yn gamarweiniol drwy awgrymu y bydd y DU yn dod i'r adwy drwy warantu'r arian y mae'r UE yn ei roi i'r ardaloedd yma ar hyn o bryd - nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae'n hen bryd i bawb wynebu ffeithiau a gwrthod ffantasïau – byddai gadael yr UE yn drychineb i'r DU, ac yn enwedig i'r ardaloedd tlotaf."