Blog iechyd meddwl
14 Mehefin 2016
O rithweledigaethau clywedol i wasanaethau iechyd meddwl, mae Prifysgol Caerdydd yn trafod ystod eang o bynciau iechyd meddwl yn ei blog newydd sbon.
Gydag un o bob pedwar o bobl yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn, mae angen cynyddol i feddwl o'r newydd am ei ofal, ei driniaeth a'i achosion. Gyda hyn mewn golwg, bydd blog iechyd meddwl y Brifysgol yn annog ac yn cynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth adeiladol ynghylch agweddau meddygol, seicolegol, biolegol, cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol ehangach o iechyd meddwl.
Gydag ystod eang o gyfranwyr, gan gynnwys rhai â phrofiad personol uniongyrchol neu anuniongyrchol o salwch meddwl, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac academyddion, cychwynnodd y blog yr wythnos diwethaf (7 Mehefin 2016) gyda chofnod rhagarweiniol gan yr Athro Michael Owen, Cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg.
I ddarllen cofnod blog yr Athro Owen neu gael gwybod rhagor am bynciau megis rhithweledigaethau clywedol geiriol a'r astudiaeth enetig mwyaf erioed o sgitsoffrenia, ewch i'r blog.