Ysgoloriaeth PhD newydd
14 Mehefin 2016
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi Ysgoloriaeth lawn am 3 blynedd ar gyfer y prosiect ‘Llenyddiaeth Ddarluniadol i Blant’.
O dan oruchwyliaeth Dr Siwan Rosser a’r Athro Sioned Davies, bydd y prosiect hwn yn archwilio maes cwbl newydd i ysgolheictod y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i weithio’n draws-ddisgyblaethol ar berthynas delweddau a geiriau.
Byddwch yn olrhain llenyddiaeth ddarluniadol wreiddiol i blant yn y Gymraeg ac yn archwilio sut y crëir ac y dehonglir ystyr gair a llun yng nghyd-destun llenydda mewn iaith leiafrifol.
Os ydych yn berson chwilfrydig sydd â diddordeb byw mewn llenyddiaeth a diwylliant gweledol ac yn gallu gweithio’n annibynnol, hoffem glywed oddi wrthych. Gallwch gael sgwrs anffurfiol a manylion pellach drwy gysylltu â Siwan Rosser (rossersm@caerdydd.ac.uk, 02920 87 4710).
Gofynion
Gradd 2:1 mewn pwnc perthnasol (megis Celf, y Gymraeg, Hanes, Astudiaethau Diwylliannol). Yn ddelfrydol, byddwch wedi cwblhau neu wrthi’n astudio cwrs ôl-radd wedi ei addysgu.
Dydias cau: 24 Mehefin. Cyfweliadau: 28-29 Mehefin
Am ffurflen gais a manylion pellach, cysylltwch â cymraeg@caerdydd.ac.uk