Hwb i Gaerdydd ar ddechrau tymor newydd
26 Medi 2013
Mae arian gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi rhoi hwb i ddarpariaeth Gymraeg mewn prifysgolion ar draws de Cymru
Mae naw o ddarlithwyr wedi'u penodi drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae Sali Collins wedi'i phenodi i ddatblygu darpariaeth ym maes Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cyn-bennaeth BBC Radio Cymru yn gobeithio denu darpar fyfyrwyr i'r brifddinas i astudio'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio elfennau o Feddygaeth yn Gymraeg am y tro cyntaf gyda Sara Whittam ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi am wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn hyderus wrth drafod materion meddygol yn Gymraeg.
Mae Gaynor Williams wedi'i phenodi i addysgu Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu'n nyrs am ugain mlynedd yn adran niwroleg Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn ddarlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Manon George ar fin gorffen ei PhD am gyfraith datganoli, ac mae wedi'i phenodi'n ddarlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Manon yn aelod o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac mae wedi addysgu Cyfraith Gyhoeddus yn Gymraeg ers pedair blynedd.
Ar ôl graddio o Goleg Imperial Llundain, mae Zoe Morris Williams wedi bod yn feddyg teulu ym Mhontypridd ac yn ddarlithydd clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae Zoe yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Feddygol Cymru, a bydd yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd fel darlithydd yn y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ''Rydym yn falch bod y tair prifysgol wedi gallu penodi'r bobl yma drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ac rydym yn dymuno'n dda iddynt yn eu swyddi newydd. Edrychaf ymlaen at weld y ddarpariaeth Gymraeg yn cynyddu yn y sefydliadau hyn yn ystod y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg.''
Nodiadau
Corff cenedlaethol yw'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd â rôl allweddol wrth gynllunio, cefnogi a datblygu addysg ac ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru. Mae'n gweithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion ledled Cymru ac yn ariannu nifer o fodiwlau ac adnoddau o ansawdd uchel.
Rhagor o Wybodaeth
Cewch ragor o wybodaeth gan Manon Llwyd, Swyddog Datblygu Marchnata a Chyfathrebu - 01267 245 667 / emailm.llwyd@colegcymraeg.ac.uk