Cryfder cydweithio: Prifysgol Caerdydd yn cynnig astudiaeth achos ar gyfer adroddiad am ymchwil fyd-eang
13 Mehefin 2016
Mae labordy ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'i ddefnyddio i ddangos sut mae cydweithio â phartneriaid rhyngwladol yn cynnig manteision ym maes imiwnoleg. Dyma faes sy'n ffynnu yn y DU.
Cynhelir y labordy ar y cyd gan Dr Eberl o'r Almaen a'r Athro Bernhard Moser o'r Swistir. Cyfeiriwyd ato mewn adroddiad newydd gan Gymdeithas Imiwnoleg Prydain oherwydd bod gwaith ei dîm rhyngwladol ar flaen y gad ym maes canfod a thrin heintiau a datblygu ymagweddau newydd ym maes imiwnotherapi canser.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion o bwys ar gyfer y Llywodraeth ac eraill fel bod y wlad yn parhau i arwain ym maes ymchwil imiwnolegol – un o brif gryfderau gwyddonol y DU.
Mae'r argymhellion yn cynnwys gwneud yn siŵr mai sefydliadau gwyddonol y DU yw'r rhai mwyaf deniadol i weithio ynddynt, a chynnal ac ehangu mynediad at gynlluniau ariannu rhyngwladol. Y nod yw gwneud yn siŵr bod gan y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr y sgiliau sydd eu hangen i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n seiliedig ar ddata, yn ogystal â manteisio ar statws y DU fel arweinydd ym maes ymchwil imiwnolegol.
Dywedodd Dr Eberl: "Gyda chydweithiwr o'r Swistir, rwyf yn cyd-arwain labordy ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi cynnal myfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol o bob rhan o'r byd. Pleser o'r mwyaf, o safbwynt personol a phroffesiynol, yw gallu gweithio gyda chymysgedd mor ddiddorol o gefndiroedd. Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at greu amgylchedd gwaith cynhyrchiol a phleserus.
"Wrth gwrs, mae gweithio a byw mewn gwlad wahanol yn gallu bod yn heriol, ond mae fy nghydweithwyr a'r gymuned ehangach wedi fy nghroesawu a ngwerthfawrogi bob amser. Fodd bynnag, mae'r polisi presennol yn golygu ei bod yn anodd iawn i rai gwyddonwyr ddod i'r DU i weithio neu astudio. Rwyf yn credu ein bod ar ein colled yn fawr o ganlyniad i fethu manteisio ar y sgiliau llawn sydd ar gael. Mae gwyddoniaeth yn enghraifft wych o ymdrech wirioneddol ryngwladol a dylai fod cydnabyddiaeth glir o ba mor hanfodol yw arbenigwyr hynod fedrus o dramor er mwyn i'r DU all parhau i fod yn gystadleuol mewn byd integredig."
Ychwanegodd yr Athro Peter Openshaw, Llywydd Cymdeithas Imiwnoleg Prydain:
"Mae imiwnoleg yn weithgaredd rhyngwladol. Dim ond drwy gydweithio'n fyd-eang â gwyddonwyr talentog ledled y byd yr ydym wedi gweld y lefelau uchel iawn o arloesedd sydd wedi cynnig diagnosteg a thriniaethau ar gyfer rhai o brif heriau iechyd y byd yn yr oes sydd ohoni.
"Dim ond pythefnos sydd tan refferendwm hollbwysig yr UE, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr bod y gymuned ryngwladol ac eang hon o ymchwilwyr yn gallu parhau i ffynnu nawr ac yn y dyfodol. Drwy gydnabod a chefnogi natur ryngwladol gweithgareddau gwyddonol, rydym yn ategu statws y DU fel arweinydd byd-eang ym maes imiwnoleg, yn ogystal â hyrwyddo llwyddiant economaidd sector gwyddonol y DU."
Mae'r adroddiad llawn ‘Immunology: an international, life-saving science’ ar gael ar wefan Cymdeithas Imiwnoleg Prydain.