Y Frenhines yn agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd
7 Mehefin 2016
Y Parti Brenhinol yn cael eu tywys o amgylch y cyfleuster gwerth £44m sy'n unigryw yn Ewrop
Agorodd Ei Mawrhydi’r Frenhines Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd £44m (CUBRIC).
Cafodd y Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, daith o amgylch y Ganolfan, sy'n cynnwys yr offer niwroddelweddu gorau yn y byd i helpu i ddatrys dirgelion yr ymennydd dynol.
Cafodd yr ymwelwyr Brenhinol eu cyfarch gan dyrfaoedd o bobl wrth iddynt gyrraedd a gadael CUBRIC, gan gynnwys plant o Ysgol Gynradd Grangetown a gwahoddir gan y Brifysgol fel rhan o brosiect ymgysylltu blaenllaw.
Bu nifer o ddisgyblion yr ysgol gymryd rhan mewn gwrthdystiadau Gemau'r Ymennydd - gweithgareddau hwyl a rhyngweithiol i ddysgu plant am yr ymennydd – i ddiddanu'r ymwelwyr Brenhinol.
Cafodd tri disgybl o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf eu cyflwyno i’r Frenhines oherwydd eu bod wedi ennill cystadleuaeth wyddoniaeth a gynhaliwyd gan y Brifysgol. Roedd y plant wedi creu lluniau o sut mae'r ymennydd yn gweithio fel rhan o gystadleuaeth flynyddol Gemau'r Ymennydd.
Cafodd y Frenhines a Dug Caeredin daith o amgylch cyfleusterau'r adeilad modern, gan gynnwys sganiwr MRI mwyaf pwerus Ewrop, gan gwrdd â staff allweddol a chyllidwyr.
Yn ystod y daith, cyfarwyddodd y Frenhines sgan ar un o sganwyr MRI pwerus y Ganolfan.
Hefyd, cyfarfu ei Mawrhydi David Humphrey 40 mlwydd oed o Gasnewydd, a weithiodd fel rheolwr dylunio ar gyfer cwmni adeiladu BAM ar y prosiect CUBRIC.
Mae David, sydd â Sglerosis Ymledol, yn rhan o astudiaeth ymchwil barhaus gan CUBRIC drwy wirfoddoli yng Nghanolfan Helen Durham dros Glefydau Niwrolidiol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
I agor y Ganolfan, cyhoeddodd y Frenhines gerflun a gomisiynwyd yn arbennig. Crëwyd y cerflun gan fyfyriwr PhD Gemma Williams, o Ysgol Seicoleg y Brifysgol.
Mae'r Ganolfan, a gynlluniwyd gan bensaernïaeth fyd-eang ac arferion technoleg Grŵp IBI ac a adeiladwyd gan gwmni adeiladu BAM, yn bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau ymchwil delweddu'r ymennydd presennol y Brifysgol.
Mae'r cyfleuster newydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.
Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd ym maes ymchwil delweddu'r ymennydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys creu swyddi ymchwil hynod fedrus yng Nghymru. Mae arianwyr wedi darparu dros £27m o'r gost.
Bydd yr agoriad yn dynodi dechrau Haf Arloesedd y Brifysgol i ddathlu gwaith arloesol y Brifysgol. Bydd yn dod â phobl o feysydd academaidd a diwydiant gyda'i gilydd i greu a chryfhau cysylltiadau a phartneriaethau.