Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r risg o ddatblygu dementia

7 Mehefin 2016

Image of the brain

Mae’r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) wedi dyfarnu grant gwerth £1.75m i dîm o wyddonwyr o’r DU i astudio sut mae amrywiad genetig penodol y gwyddys ei fod yn cynyddu'r risg ar gyfer dementia yn effeithio ar yr ymennydd.

Mae’r ymchwilwyr – o Brifysgolion Caerdydd, Bryste a Rhydychen – yn cyfuno eu harbenigedd er mwyn astudio sut gallai patrymau strwythur a gweithgarwch yr ymennydd mewn oedolion ifanc fod yn gysylltiedig â mwy o risg o ddatblygu dementia yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Mae dementia’n costio amcangyfrif o £24 biliwn bob blwyddyn i economi’r DU. Os gall ymchwil adnabod dulliau o ohirio dechrau dementia am bum mlynedd, gallai'r gost hon gael ei haneru.

Gan weithio gydag Astudiaeth Hydredol Avon o Rieni a Phlant (ALSPAC), carfan geni unigryw Prifysgol Bryste, byddant yn gofyn a yw oedolion iach sydd ag APOE-e4, amrywiad genetig sy’n gysylltiedig â mwy o risg o glefyd Alzheimer, yn dangos patrymau wedi’u newid o ran gweithgarwch yr ymennydd a chysylltedd mewn cylchedau ymennydd allweddol sy’n ymwneud â mordwyo gofodol a’r cof.

Gan ddefnyddio sganwyr newydd pwerus a osodwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), mae’r ymchwilwyr yn gallu asesu strwythur a swyddogaeth yr ymennydd yn fanylach nag erioed o’r blaen.

Mae ymchwil blaenorol gan y tîm wedi dangos bod y rhai sy’n cario APOE-e4 yn dangos gwahaniaethau penodol yng ngweithgarwch yr ymennydd (o'u cymharu â rhai nad ydynt yn ei gario) pan fydd rhaid iddynt wahaniaethu rhwng safbwyntiau gwahanol golygfa neu amgylchedd gofodol neu pan fydd rhaid eu cofio.

Gwelir y newidiadau hyn yn yr un rhannau o’r ymennydd yr effeithir arnynt yn gynnar yng nghlefyd Alzheimer. Drwy gymhwyso'r profion gwybyddol sensitif hyn mewn cyfranogwyr ALSPAC, bydd yr ymchwilwyr yn gallu gofyn sut mae proffiliau gweithgarwch corfforol a meddyliol, o enedigaeth i oedolaeth ifanc, yn effeithio ar ddylanwad APOE-e4 ar weithgarwch yr ymennydd yn ystod y tasgau hyn.

Meddai’r Athro Kim Graham, Ysgol Seicoleg, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth: "Mae deall sut y mae ffactorau risg ar gyfer dementia yn arwain at golli cof yn nes ymlaen yn ystod bywyd yn hanfodol er mwyn datblygu therapïau newydd a dulliau ataliol ar gyfer dementia.

"Drwy gydweithio â Phrifysgolion Bryste a Rhydychen, a defnyddio niwroddelweddu modern newydd mewn carfan geni unigryw, gobeithiwn ddeall y ffyrdd y mae APOE-e4 yn dylanwadu ar weithgarwch a strwythur yr ymennydd.

"Bydd y wybodaeth hon yn cynhyrchu profion gwybyddol sensitif a marcwyr swyddogaeth yr ymennydd a fydd yn gallu adnabod unigolion sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia flynyddoedd lawer cyn i anawsterau’r cof ddechrau."

Ychwanegodd Clare Mackay o Brifysgol Rhydychen, y Cyd Brif Ymchwilydd: "Fwyfwy rydym yn cydnabod bod rhaid cyfuno arbenigedd ac adnoddau er mwyn mynd i'r afael â chlefydau cymhleth megis dementia. Fel partneriaid yn Llwyfan Dementia’r DU y MRC, mae gan dîm Caerdydd-Rhydychen-Bryste gyfle yn awr i ddatblygu dealltwriaeth fwy eglur o pam mae rhai pobl yn wynebu mwy o risg o ddatblygu dementia."

Meddai Lynn Molloy, Cyfarwyddwr Gweithredol ALSPAC, Lynn Molloy: "Mae ALSPAC yn falch o gael cydweithio â’r Athro Graham a’i gydweithwyr ar yr astudiaeth newydd gyffrous hon.

"Mae’r grŵp hynod hwn o gyfranogwyr astudiaeth sydd wedi cael eu hastudio’n ddwys bellach yn cyrraedd canol eu hugeiniau a bydd yr astudiaeth hon yn rhoi cipolwg newydd ar sut gallai newidiadau i’r ymennydd yn yr oed hwn fod yn gysylltiedig â mwy o ddementia yn nes ymlaen yn eu bywydau.”