Agoriad Brenhinol ar gyfer Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd sydd wedi costio £44 miliwn
3 Mehefin 2016
Mae’r Brifysgol yn paratoi ar gyfer diwrnod arbennig pan fydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn agor Canolfan newydd Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), a gostiodd £44 miliwn, ar 7 Mehefin 2016.
Bydd Ei Mawrhydi a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn cael eu tywys o amgylch y Ganolfan, sy’n gartref i gyfuniad o offer niwroddelweddu unigryw yn Ewrop, a byddant hefyd yn cwrdd â staff allweddol a noddwyr.
Caiff y ddau ohonynt gyfle i weld sganiwr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop, system MRI Siemens 3 Tesla Connectom, sganiwr MRI sydd wedi’i addasu’n arbennig. Dim ond dau ohonynt sydd yn y byd i gyd, ac ym Mhrifysgol Harvard yn UDA y mae'r llall.
Bydd y Frenhines yn cael ei chyfarch gan blant o Ysgol Gynradd Grangetown, Caerdydd, sydd wedi eu gwahodd gan y Brifysgol fel rhan o un o brosiectau ymgysylltu cymunedol y Brifysgol.
Cyflwynir tri disgybl o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf i’r Frenhines oherwydd eu bod wedi ennill cystadleuaeth wyddoniaeth a gynhaliwyd gan y Brifysgol.
Bu’r plant yn tynnu darluniau o sut mae’r ymennydd yn gweithio fel rhan o gystadleuaeth flynyddol a gynhelir gan y staff sy'n gweithio yng nghanolfan fodern newydd y Brifysgol.
Bydd Ei Mawrhydi hefyd yn dadorchuddio cerflun sydd wedi'i gomisiynu'n arbennig. Crëwyd y cerflun gan Dr Gemma Williams sy'n fyfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin i agor ein Canolfan newydd ar gyfer Ymchwil Delweddu'r Ymennydd.
"Mae'n anrhydedd i'r brifysgol ac yn amlygu pwysigrwydd y cyfleusterau neilltuol sydd yma, gan gynnwys sganiwr MRI wedi’i addasu'n arbennig nad yw ar gael ond mewn un lleoliad arall yn y byd.
"Mae pwysigrwydd byd-eang i’n gwaith, gan ein bod yn ceisio dod i ddeall anhwylderau’r ymennydd er mwyn i hynny arwain at ddatblygu triniaethau gwell."
Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’n anrhydedd wych i ni groesawu Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin i’n canolfan arbennig.
"Mae’r agoriad brenhinol yn benllanw llawer o waith caled a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn hynny, o fewn y Brifysgol a'r tu allan iddi.
"Mae'n fraint cael arwain tîm o bobl mor ddawnus yn CUBRIC ac rwy'n gyffrous iawn ein bod bellach yn gallu defnyddio’r offer gorau o’i fath yn y byd.
"Mae galw cynyddol am y gwaith ymchwil pwysig hwn sy’n rhoi cyfle i ni sicrhau bod pobl ar draws y byd yn elwa mewn modd a allai newid eu bywydau.”
Mae'r cyfleuster newydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.
Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd ym maes ymchwil delweddu'r ymennydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys creu swyddi ymchwil medrus iawn yng Nghymru.
Mae arianwyr wedi darparu dros £27 miliwn o'r gost.
Dyluniwyd CUBRIC gan gwmni pensaernïaeth a thechnoleg byd-eang, IBI Group, a chwmni BAM sydd wedi'i hadeiladu.
Bydd yr agoriad yn cychwyn Haf Arloesedd y Brifysgol, a fydd yn dathlu gwaith arloesol y Brifysgol, ac yn dod â phobl o feysydd academaidd a diwydiant ynghyd i greu a chryfhau cysylltiadau a phartneriaethau.