Gwyddonwyr benywaidd ar eu bocs sebon i dynnu sylw at wyddoniaeth
3 Mehefin 2016
Bydd gwyddonwyr Prifysgol yn camu i ben bocs sebon yng nghanol Dinas Caerdydd i ennyn diddordeb y cyhoedd am eu gwaith ymchwil.
Caiff strydoedd Caerdydd eu trawsnewid yn arena gyhoeddus dydd Sadwrn nesaf, 4 Mehefin, wrth i naw o wyddonwyr benywaidd o Brifysgol Caerdydd gamu ar focs sebon i sôn wrth bobl am yr ymchwil diddorol maen nhw'n ei gynnal.
Rhwng 1 a 4pm y tu allan i Ganolfan Siopa Dewi Sant 2 (Stryd Hills), bydd cyfle i'r cyhoedd fwynhau, dysgu, ymyrryd, cwestiynu, holi, rhyngweithio a chael eu hysbrydoli gan rai o wyddonwyr blaenllaw Cymru.
Mae Soapbox Science, sy'n teithio o amgylch y DU, yn arddangos esiamplau o fenywod llwyddiannus ym myd gwyddoniaeth ar bob cam o'u gyrfaoedd, ac o wahanol gefndiroedd. Bydd y gwyddonwyr yn sefyll ar grât ben i waered mewn stryd brysur, a dywedir wrthynt am gyfleu eu neges i'r bobl sy'n mynd heibio.
Y naw gwyddonydd sy'n cymryd rhan o'r Brifysgol yw: Ms Mallika Arora; Yr Athro Lynne Boddy; Ms Henrieka Detlef; Dr Kristin Ladell; Dr Emma Lane; Ms Nicole Pacchiarini; Dr Polina Prokopovich; Dr Dominique Tanner; a Dr Hayley Wyatt.
Mae Dr Emma Lane, uwch-ddarlithydd yn yr ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn cynnal gwaith ymchwil yn edrych ar ffyrdd y gellir trin clefyd Parkinson gyda bôn-gelloedd.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Dr Lane: "Rwyf i'n edrych ymlaen at fod yn rhan o Soapbox Science eleni. Rwy'n edrych ymlaen at yr her o siarad am fy ymchwil a'i gwneud yn hygyrch a difyr i unrhyw un sy'n dymuno gwrando, yn ogystal â'r her ychwanegol o ddenu pobl i wrando.
"Mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r digwyddiad hwn i annog menywod i ddechrau meddwl am wyddoniaeth. Cefais fentoriaid benywaidd gwych yn gynnar yn fy ngyrfa, ac roedd eu cyngor a'u cefnogaeth yn amhrisiadwy. Mae cymorth mentor annibynnol yn rhoi persbectif ar ble rydych chi nawr, a lle hoffech chi fod yn y dyfodol."
Mae Dr Hayley Wyatt o'r Ysgol Mathemateg yn cynnal ymchwil i ddeall solidau cellog a geir mewn natur, fel coesynnau planhigion a phawennau anifeiliaid, a sut maen nhw'n ymddwyn dan anffurfiadau mawr.
Meddai: "Rwyf i'n edrych ymlaen ond hefyd yn teimlo'n nerfus iawn am gymryd rhan yn soapbox science, ond rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno gwyddoniaeth ddiddorol a gobeithio ysbrydoli pobl eraill i gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth a pheirianneg”.
Mae'r Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg Prifysgol Caerdydd, wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau Soapbox Science blaenorol, ac yn frwd dros gael mwy o fenywod i gymryd rhan ym meysydd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
"Mae'n bwysig dangos i'r cyhoedd pa mor amrywiol yw'r gweithlu STEM – mae'r oes yn newid, ac yn sicr, nid yw pawb yn cydymffurfio â'r stereoteip hen ffasiwn o hen ddynion blewog mewn cotiau gwyn," dywedodd yr Athro Holford.
"Roedd technoleg bob amser yn fy niddori. Ond yr hyn a wnaeth ennyn fy niddordeb go iawn oedd gwylio dynion yn glanio ar y lleuad gyda fy nheulu pan oeddwn yn chwe blwydd oed. Bellach, darganfod pethau sy'n fy ysgogi. Mae'n hynod ddiddorol gweithio gyda phobl ddawnus sy'n llawn syniadau; mae'r broses o weithio mewn tîm i ddatrys problem a'r ymdeimlad o gyflawniad pan fyddwch yn darganfod rhywbeth newydd yn bwysig i mi."
Bydd cyfanswm o 12 o wyddonwyr o Gaerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Abertawe.