Dathlu hanes radical Merthyr Tudful
31 Mai 2016
Mae gan y Brifysgol rôl bwysig mewn digwyddiad cymunedol, yng nghwmni Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, sy'n dathlu diwylliant a hanes balch Merthyr Tudful.
Nod Gŵyl tri diwrnod Gwrthryfel Merthyr 2016 (Merthyr Rising 2016) yw tynnu ar greadigrwydd, treftadaeth a radicaliaeth tref sy'n gyfystyr â'r chwyldro diwydiannol a gwleidyddiaeth y dosbarth gwaith.
Mae prosiect ymgysylltu Cymunedau Iach, Pobl Iachach y Brifysgol, yn noddi cyfres o drafodaethau cyhoeddus, trafodaethau Twyn y Waun, yn rhan o'r ŵyl, gan roi sylw i faterion gwleidyddol, economaidd a diwylliannol cyfoes.
Bydd Mr McDonnell yn siarad am yr economi ac am ddewisiadau ar wahân i galedi. Ymysg y cyfranwyr eraill sy'n cymryd rhan mewn dadleuon ar wahân, mae'r awdur, yr ymgyrchydd a'r nofelydd Tariq Ali, arweinydd y glowyr Tyrone O'Sullivan, a Dr John Jewell o Brifysgol Caerdydd.
Yn ôl Dr Martin O'Neill, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n rhan o Gymunedau Iach, Pobl Iachach: "O Wrthryfeloedd 1831 i derfysgoedd Rebecca a Llanelli, Teirw Scotch, Siartiaeth ac effaith pobl fel Keir Hardie, Aneurin Bevan ac SO Davies, mae gan dde Cymru draddodiad hir a balch o radicaliaeth gymdeithasol a gwleidyddol.
"Nod y trafodaethau hyn yw adeiladu ar y dreftadaeth hon, er mwyn ysgogi trafodaeth wybodus a chadarn am y materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfredol pwysicaf.
"Drwy noddi trafodaethau Twyn y Waun, ein nod yw cefnogi a chynnal y traddodiad hir hwnnw o ystyried Merthyr Tudful yn ganolfan syniadau gwleidyddol radical."
Mae'r trafodaethau'n dathlu ysbryd y trafodaethau a gynhaliwyd ger Dowlais yn ystod Gwrthryfel Merthyr, un o'r achosion cynharaf o weithredu a drefnwyd gan weithwyr diwydiannol ym Mhrydain yn y 19eg Ganrif.
Daeth dros 2,000 o weithwyr o Ferthyr a Sir Fynwy i Dwyn y Waun ym mis Mai 1831, i gyflwyno deiseb i'r Brenin yn gofyn am ddiwygiadau yn dilyn dicter dros gyflogau isel, dyled ac amodau gweithio gwael.
Bydd trafodaethau Twyn y Waun yn 2016 yn ceisio ystyried syniadau radical wrth drafod materion economaidd a gwleidyddol presennol, yn rhan o'r ŵyl ehangach, a gaiff ei chynnal am y trydydd gwaith eleni, rhwng 3 a 5 Mehefin.
Bydd un o'r trafodaethau'n cynnwys Dr John Jewell o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol, fydd yn siarad am bropaganda, recriwtio a gohebu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd Dr Jewell yn dadansoddi rôl llywodraeth, y cyfryngau yn ogystal â ffigurau a chyrff diwylliannol blaenllaw, wrth gyflwyno delwedd o wrthdaro oedd yn dra gwahanol i'r hyn oedd yn digwydd ar ffrynt y Gorllewin mewn gwirionedd.
Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn brosiect a gynhelir gan y Brifysgol i greu model cynaliadwy o gydweithio ym meysydd ymchwil, addysg, ymgysylltu a rhannu gwybodaeth rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol yng ngogledd Merthyr a Butetown, Glan yr Afon a Grangetown yng Nghaerdydd.
Mae'n un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.