Gwobr Effaith Ryngwladol
1 Mehefin 2016
Mae prosiect a harneisiodd bŵer aur fel catalydd masnachol wedi ennill gwobr Effaith Ryngwladol yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2016.
Dyfeisiodd gwyddonwyr yn yr Ysgol Cemeg, dan arweiniad yr Athro Graham Hutchings, gatalydd aur sydd â'r potensial i ddisodli catalyddion mercwri niweidiol sy'n cael eu defnyddio yn y broses gynhyrchu PVC.
Bu cemegwyr Caerdydd yn cydweithio gyda Johnson Matthey (JM), cwmni rhyngwladol o'r DU ym maes cemegolion arbenigol a thechnolegau cynaliadwy. Gan weithio mewn partneriaeth, Caerdydd oedd yn darparu'r wyddoniaeth sylfaenol.
Yna aeth tîm dan arweiniad Dr Peter Johnston, Ymgynghorydd Gwyddonol Johnson Matthey, ati i ddylunio a datblygu catalydd hynod sefydlog, hyfyw yn fasnachol sy'n defnyddio ychydig iawn o aur i gynhyrchu Monomer Clorid Finyl - a ddefnyddir i gynhyrchu PVC.
Mae'r catalydd aur hwn nad yw'n llygru - ac sy'n cael ei fasnachu yn Tsieina bellach - yn perfformio'n well na chatalyddion sy'n cynnwys mercwri drwy gynhyrchu cynnyrch uwch yn fwy cost-effeithiol.
Dyma'r tro cyntaf mewn 50 o flynyddoedd i drawsnewidiad llawn gael ei weithredu i ffurfio catalydd i gynhyrchu'r cemegolyn nwyddau hwn.
Dywedodd yr Athro Graham Hutchings: "Rydym ni wrth ein bodd i gael cydnabyddiaeth am ein gwaith fel arloeswyr rhyngwladol sy'n glanhau'r amgylchedd byd-eang. Ar ôl 2017, bydd cytundeb rhyngwladol rhwymol i leihau defnydd o fercwri'n golygu y bydd gweithfeydd Monomer Clorid Finyl yn seiliedig ar Asetylen ar draws y byd yn gorfod defnyddio catalydd sy'n rhydd o fercwri, cyhyd â bod dewis amgen economaidd ar gael. Mae ein prosiect ni wedi dangos mai aur sy'n cynnig y datrysiad gorau posibl."
Dywedodd Sebastiaan van Haandel, Rheolwr Busnes Johnson Matthey: "Mae'r wobr yn cydnabod partneriaeth gydweithredol wych rhwng Prifysgol Caerdydd a Johnson Matthey, o ran cemeg a pheirianneg gemegol. Mae'r catalydd newydd hwn, PRICAT™ MFC, yn enghraifft arall o allu Johnson Matthey a'i ymrwymiad i dechnolegau cynaliadwy.”
Mae Johnson Matthey wedi adeiladu gweithfeydd cynhyrchu catalyddion masnachol o ansawdd byd-eang ar ei safle yn Shanghai, Tsieina, ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi catalydd masnachol aur ar garbon i gynhyrchu Monomer Clorid Finyl yn Tsieina.
Johnson Matthey has built a world class commercial catalyst manufacturing plant at its Shanghai site, China for the dedicated manufacture and supply of commercial gold on carbon catalyst for the manufacture of VCM in China.