Gwobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd
1 Mehefin 2016
Partneriaeth sy'n datblygu cyffur newydd ar gyfer canser metastatig y fron sydd wedi ennill y Wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2016.
Mae'r fenter, dan arweiniad tîm cydweithredol o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yng Nghaerdydd, yn cyfuno arbenigedd academaidd mewn datblygu cyffuriau a bioleg canser gyda phrofiad cwmnïau biotechnoleg ailstrwythuro.
Gwraidd y syniad oedd astudiaeth PhD o ddatblygiad y chwarren laeth yn Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol, lle dynododd tîm yn labordy Clarkson yr oncogenyn Bcl3 fel rheolydd metastasis posibl.
Yna bu'r labordy'n cydweithio gyda Dr Andrea Brancale a Dr Andrew Westwell o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol i ddylunio a datblygu atalydd newydd i Bcl3 i'w ddefnyddio fel asiant gwrth-ganser.
Erbyn 2013 roedd y tîm wedi dynodi atalydd Bcl3 ar ffurf moleciwl bach, a dangosodd labordy Clarkson ei fod yn meddu ar nodweddion gwrth-ganser cryf ar gyfer canser metastatig y fron a cholorectaidd.
Cysylltodd y tîm a'r entrepreneur biotechnoleg Gabriele Cerrone i drafod buddsoddiad masnachol, a ffurfiwyd cwmni biotechnoleg newydd - Tiziana Life Sciences Plc.
Fe'i lansiwyd ar y farchnad AIM ar y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain ym mis Ebrill 2014, ac ar hyn o bryd mae iddo gyfalaf marchnad sydd o ddeutu £150M.
Dywedodd Dr Richard Clarkson, Uwch-ddarlithydd ymchwil canser yn Ysgol y Biowyddorau: "Rydym yn falch iawn o ennill y Wobr hon, sy'n cydnabod ymroddiad a gwaith caled y tîm wrth ddatblygu'r ffurf newydd hon o driniaeth. Dyma'r asiant targedig newydd cyntaf â nodweddion bôn-gelloedd gwrth ganser i’w ei ddatblygu o fainc y labordy i ymyl y gwely yn y DU. Mae ar flaen y gad ymhlith y garfan newydd o asiantau gwrth-fetastatig sy'n cael eu hyrwyddo mewn treialon clinigol - a dyma'r asiant gwrth ganser cyntaf i'w ddynodi, ei ddatblygu, ei ddilysu ac sydd ar fin cael ei brofi'n glinigol yng Nghymru, gyda chyllid o sector masnachol y DU a Llywodraeth Cymru."
Dywedodd Gabriele Cerrone, Cadeirydd Tiziana Life Sciences Plc: "Helpodd gwaith ar y prosiect hwn i gadarnhau ein perthynas â Phrifysgol Caerdydd a sbarduno maes newydd therapiwteg bôn-gelloedd canser. Mae'r Wobr hon yn dangos y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yng Nghaerdydd i ddynodi atalyddion y gellir eu datblygu'n gyffuriau newydd ar gyfer canser."
Ai hwn yw eich hoff gynnig? Dywedwch wrthym pam i gael cyfle i ennill y wobr.
Dyma sut y gallwch bleidleisio Trydar @prifysgolcdydd gyda'ch rheswm dros ddewis y prosiect.
- Cofiwch gynnwys hashnod #CUII1
- Gadewch sylw am y Gwobrau ar dudalen Facebook Prifysgol Caerdydd.
- Gadewch sylw am ffilm y prosiect ar sianel YouTube Prifysgol Caerdydd.