Gwobr Effaith ar Bolisi
1 Mehefin 2016
Mae gwaith arloesol i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru wedi ennill gwobr Effaith ar Bolisi yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith 2016 Prifysgol Caerdydd.
Helpodd arbenigedd academaidd yr Athro Emma Renold a Dr Amanda Robinson o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol i ffurfio deddfwriaeth newydd, sef Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Dros nifer o flynyddoedd, buon nhw'n cydweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, gan ddylanwadu ar y broses ddeddfu o'r Papur Gwyn hyd at Gydsyniad Brenhinol.
Bu Dr Robinson yn darparu cyngor lefel uchel i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol a helpu i greu 'gweledigaeth' y Papur Gwyn, cynigion sydd ers hynny wedi'u hymgorffori yn y gyfraith.
Helpodd yr Athro Renold i sefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb, Rhywioli a Rhywioldeb Plant, a thrwy ei hymchwil arloesol a ffurfiau creadigol o ymgysylltu gyda thros 1,000 o blant a phobl ifanc, galluogodd i'w lleisiau gael eu clywed gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Robinson: "Rydym wrth ein bodd yn ennill y Wobr hon, sy'n dangos sut mae tystiolaeth ymchwil ochr yn ochr â gwybodaeth o brofiad ymarferwyr, dioddefwyr a goroeswyr a'r cyhoedd yn gallu cael ei drosi'n bolisi a chyfraith. Nifer fach iawn o wledydd sydd wedi pasio deddfwriaeth ar lefel genedlaethol sy'n cyfateb yn ei chwmpas neu ei hamcanion â Deddf 2015."
Ychwanegodd yr Athro Renold: "Mae pasio'r ddeddfwriaeth hon yn nodi cyfnod newydd yn hanes Cymru lle gall prifysgolion, gwneuthurwyr polisi, y trydydd sector, ysgolion a phobl ifanc weithio'n llwyddiannus gyda'i gilydd i gyd-gynhyrchu a sicrhau newid gwleidyddol."
Ychwanegodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Mae gwaith arloesol yr Athro Renold a Dr Robinson yn dangos bod modd i fewnbwn academaidd ffurfio deddfwriaeth gref, gan helpu i wneud ein bywydau'n well. Mae prosiectau cydweithredol ac amlweddog fel hwn sy'n dod ag academyddion a gwneuthurwyr polisi at ei gilydd i ganfod datrysiadau real ac ymarferol yn allweddol ar gyfer arloesi yng Nghymru."