Ymweliad EM y Frenhines yn dechrau'r 'Haf Arloesedd'
1 Mehefin 2016
Bydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn dechrau dathliadau'r Haf Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd ymweliad y Frenhines i agor Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn swyddogol ar 7 Mehefin, yn dechrau'r Haf Arloesedd. Yn ystod yr haf, caiff y gorau o waith Prifysgol Caerdydd ei arddangos er mwyn troi ymchwil arloesol yn gynhyrchion, yn fusnesau ac yn gwmnïau deillio.
Rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2016, bydd yr Haf Arloesedd yn amlygu syniadau ar gyfer prosiectau, partneriaethau a chysylltiadau newydd.
Bydd yn helpu i adeiladu cysylltiadau'r Brifysgol â'r byd y tu allan, gan gynnwys partneriaid ymchwil a busnesau newydd.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor: "Mae'r Haf Arloesedd yn dathlu'r gwaith yr ydym yn ei wneud i ddatgloi pŵer ymchwil. Rydym yn adeiladu campws arloesedd newydd gwerth £300m, a fydd yn creu syniadau newydd ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd.
"Mae arloesedd yn seiliedig ar ennill ymddiriedaeth. Ein nod yw creu partneriaethau parhaus, cysylltu busnes, diwydiant, llywodraeth a chyrff anllywodraethol â'n harbenigwyr academaidd dawnus, a chefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr a allai ddod â ffyniant i Gymru.
"Gall arloesedd greu cyfoeth a hyrwyddo newid yng Nghaerdydd, Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ein nod yw chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r Fargen Ddinesig £1.2bn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gwella cynhyrchiant a chefnogi twf swyddi ar draws y rhanbarth."
Mae agor Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd ar Heol Maendy, Caerdydd, yn garreg filltir o bwys i arloesedd yng Nghymru.
Mae'r cyfleuster newydd gwerth £44m yn darparu'r offer Niwroddelweddu mwyaf pwerus yn Ewrop i wyddonwyr i geisio datrys dirgelion yr ymennydd dynol.
Meddai’r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Mae Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn unigryw yn Ewrop, a chystal ag unrhyw gyfleuster tebyg yn y byd. Mae'r Haf Arloesedd yn dathlu llwyddiant ein tîm gwych yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig yn well a datblygu triniaethau gwell."
Ychwanegodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: Mae'r Haf Arloesedd yn ymwneud â rhoi syniadau ar waith, mynd â datblygiadau newydd o'r fainc waith i ystafell y bwrdd, a rhoi cyfleoedd gwych i ddarpar bartneriaid. Mae'n ymwneud â chaniatáu ymchwilwyr, myfyrwyr a staff i ddatblygu syniadau o'r radd flaenaf a rhannu eu canfyddiadau."
Mae digwyddiadau dros yr haf yn cynnwys Gwobrau Effaith ac Arloesedd Caerdydd ar 22 Mehefin. Eleni, mae cystadleuaeth yn y cyfryngau cymdeithasol i benderfynu Gwobr Dewis y Bobl, yn cynnig cyfle i ennill oriawr glyfar Pebble neu Raspberry Pi. Dilynwch #summerofinnovation
Cewch ragor o wybodaeth am yr Haf Arloesedd yn: http://www.caerdydd.ac.uk/innovation/summer-of-innovation