Asesu risg canser
23 Rhagfyr 2013
Bydd pobl sydd â risg uchel o gael canser y coluddyn a chanser y groth oherwydd cyflwr genetig yn derbyn diagnosis mwy cywir o ganlyniad i fodel newydd a ddatblygwyd gan dîm o wyddonwyr rhyngwladol.
Mae gwyddonydd o Sefydliad Geneteg Feddygol y Brifysgol, sy'n rhan o'r Ysgol Feddygaeth, yn aelod o dîm ymchwil rhyngwladol sydd wedi datblygu'r ffordd newydd hon o nodi pobl sydd â risg uchel o gael canser.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Genetics, yn canolbwyntio ar y genynnau sy'n gyfrifol am Syndrom Lynch – cyflwr teuluol etifeddol sy'n cynyddu'r risg o ganser y coluddyn, canser y groth a mathau eraill o ganser, yn enwedig ymhlith yr ifanc. Tybir bod oddeutu 5% o'r achosion o ganser y coluddyn a chanser y groth yn digwydd o ganlyniad i Syndrom Lynch.
Yn y bôn, mae'r model yn troi data DNA nad oedd modd ei ddehongli'n flaenorol yn wybodaeth ddefnyddiadwy sydd â budd clinigol uniongyrchol. Mae'n golygu bod meddygon ar draws y byd bellach yn gallu cael mynediad at wybodaeth newydd a rhoi syniad mwy eglur i gleifion o'u risg deuluol.
"Yn y Deyrnas Unedig, mae canser y coluddyn yn lladd oddeutu 16,000 o bobl y flwyddyn, ac mae canser y groth – sef y canser gynaecolegol mwyaf cyffredin – yn lladd oddeutu 2,000 o fenywod y flwyddyn, gyda'r gyfradd uchaf yng Nghymru," yn ôl Dr Ian Frayling o'r Ysgol Feddygaeth, sy'n aelod o'r Gymdeithas Ryngwladol Tiwmorau Etifeddol Gastroberfeddol (InSiGHT) a drefnodd yr ymchwil.
"Yn ei hanfod, rydym wedi llwyddo i wella'r wybodaeth genetig yn y gronfa ddata InSiGHT a rhoi mwy o bendantrwydd ynglŷn â'r risg o gael canser," ychwanegodd.
Ar hyn o bryd, yn aml dywedir wrth gleifion sy'n cael profion genetig ar gyfer Syndrom Lynch fod ganddynt 'amrywiolion o arwyddocâd ansicr', sy'n ganlyniad amhendant.
Mae hyn yn gadael pobl mewn rhyw fath o limbo genetig, yn ansicr a ydynt yn wynebu risg uwch o ganser, neu a yw aelodau eu teulu mewn perygl hefyd.
"O ganlyniad i'r gwaith hwn, bydd meddygon bellach yn gallu dweud yn llawer mwy hyderus a oes gan y cleifion hynny Syndrom Lynch, ac felly a ydynt mewn perygl uwch o gael canser," yn ôl Dr Frayling.
"Bydd hyn yn helpu i achub mwy o fywydau, oherwydd trwy roi ateb pendant i fwy o gleifion, byddant yn gallu cael mynediad at y prosesau sgrinio arbenigol sydd eu hangen arnynt.
"Bydd hefyd yn arbed adnoddau i'r GIG yn ogystal â bod yn fwy diogel, oherwydd gallwn roi sicrwydd i bobl nad ydynt mewn perygl ac felly nad oes angen y sgrinio ychwanegol arnynt. O ganlyniad i hyn, mae cydweithwyr a'r teuluoedd y maent yn gofalu amdanynt ledled y Deyrnas Unedig yn elwa, ac rydym yn gweithio i'w gynnwys yng Nghanllawiau'r Deyrnas Unedig ar gyfer profi am Syndrom Lynch," ychwanegodd.