Llwyfan y Bobl
20 Mai 2016
Mae pobl ym Merthyr yn mynd i lwyfannu darn o theatr a thrafodaeth fyw unwaith yn unig sy'n edrych ar Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (2016) a sut mae'n berthnasol i'w bywydau.
Bydd Llwyfan y Bobl, prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, POSSIB, Lleisiau mewn Celf, Common Wealth a TEAM National Theatre Wales, yn dod â phobl a llunwyr polisïau sy'n eu cynrychioli ynghyd i ystyried materion a godir gan y Ddeddf drwy theatr a thrafodaeth.
Nod y Ddeddf, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2016, yw annog cyrff cyhoeddus i feddwl rhagor am yr hirdymor, cydweithio'n well â phobl a chymunedau, ceisio atal problemau, yn ogystal â meithrin ymagwedd fwy cydlynol.
Mae'r prosiect yn rhan o ymchwil Cynrychioli Cymunedau y Brifysgol ac mae'n cael ei ariannu gan Raglen Ymchwil Cymunedau wedi’u Cysylltu Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
O dan arweiniad Dr Eva Elliott o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, mae'r ymchwil yn edrych ar sut gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefelau polisi cenedlaethol a lleol i ddeall iechyd a lles yn well.
Bydd Llwyfan y Bobl yn cynnwys pedwar artist o Gymru, cwmni theatr lleol newydd, ac actorion lleol o grwpiau a dangrychiolir ym Merthyr yn dod wyneb yn wyneb â'r gynulleidfa.
Gan drin a thrafod polisïau mewn ffordd sydd erioed wedi digwydd o'r blaen yng Nghymru, bydd yr actorion yn cyflwyno perfformiadau byr sy'n ymwneud â saith nod y Deddf, ac yn annog trafodaeth rhwng aelodau'r gynulleidfa. Ei nod fydd ein helpu i ddychmygu o’r newydd sut gallwn ddylanwadu ar bolisi a chreu newid, drwy werthfawrogi pobl leol fel arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain.
Meddai Ellie Byrne o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac aelod o'r tîm ymchwil: “Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi ceisio datgelu’r ochr nad yw’n cael ei adrodd mor aml am iechyd a lles i bobl sy'n byw yng ngogledd Merthyr Tudful. Mae rhan bwysig o'n gwaith wedi bod yn ymwneud â herio delweddau’r cyfryngau o’r ardal, a welwyd mewn rhaglenni megis Skint, a ddarlledwyd yn y DU y llynedd. Her sy’n ein hwynebu yw sôn am iechyd a lles heb warthnodi'r ardal ymhellach, ond hefyd heb anwybyddu rhai o'r anawsterau gwirioneddol iawn y mae’r trigolion yn eu hwynebu. Rydym wedi canfod y gall theatr a pherfformio gynnig llwyfan i’r mathau hyn o drafodaeth, ac rydym yn gyffrous ein bod yn gweithio gyda POSSIB, Common Wealth, National Theatre Wales a’n cyfranogwyr ar hyn.”
Meddai Jên Angharad o POSSIB, prosiect celfyddydol dwyieithog a ariennir gan y Loteri Fawr: "Mae’r celfyddydau’n rhan annatod o'n treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru ac maen nhw’n dal i fod yn ffurf bwerus ar greadigrwydd a mynegiant y gallwn eu defnyddio i wneud synnwyr o'n byd ac i ddychmygu ein dyfodol o’r newydd. Mae Llwyfan y Bobl yn un o nifer o brosiectau celfyddydau rydym wedi eu dathlu dros y tair blynedd diwethaf, y mae pob un ohonynt wedi bod yn bosibl oherwydd creadigrwydd, ymrwymiad ac egni ysgolion a phobl yng Ngogledd Merthyr sydd wedi cymryd rhan."
Cynhelir Llwyfan y Bobl rhwng 7 a 9pm ar 16 Mehefin 2016 yng Nghlwb Cymdeithasol Penydarren, Rhodfa Alexandra, Merthyr Tudful, CF47 9AF. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim. Cysylltwch ag Ellie Byrne i gael rhagor o wybodaeth - ByrneE@Caerdydd.ac.uk.