Adeiladu pontydd rhwng meysydd busnes ac ymchwil
22 Mawrth 2016
Arbenigwyr yn ymgynnull yn y Brifysgol i hyrwyddo rhyngweithio rhwng y sector preifat ag ymchwil a ariennir gan yr UE
Mae'r Brifysgol wedi croesawu nifer o ffigurau blaenllaw o ddiwydiant a'r byd academaidd mewn digwyddiad sy'n ceisio hyrwyddo ffyrdd y gall partneriaethau fanteisio i'r eithaf ar arian Ewropeaidd.
Rhaglen Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA), a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd 20 mlynedd yn ôl, oedd canolbwynt y digwyddiad. Mae'r rhaglen yn cynnig grantiau i ymchwilwyr ar bob cam yn eu gyrfa er mwyn eu helpu i gael y sgiliau a'r profiad rhyngwladol y mae arnynt eu hangen i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
Mae grantiau MSCA yn cynnig amodau gwaith deniadol i ymchwilwyr yn ogystal â'r cyfle i symud rhwng gwahanol wledydd, sectorau a disgyblaethau.
Bwriad y digwyddiad undydd, a gynhaliwyd yn Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol, oedd annog mwy o fusnesau a diwydiant i ryngweithio â grantiau MSCA, nid yn unig er budd yr ymchwilwyr, ond hefyd er budd eu rhaglenni ymchwil eu hunain.
Meddai'r Athro Nora de Leeuw (Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop, Prifysgol Caerdydd): “Nid oes gan lawer o gwmnïau o reidrwydd y cyfleusterau, yr arian na'r gweithwyr i gynnal eu prosiectau ymchwil fel yr hoffen nhw wneud hynny.
“Drwy ddod yn rhan o raglen Marie Skłodowska-Curie Actions a chydweithio â chyrff ymchwil academaidd, gall y cwmnïau hyn elwa'n fawr drwy allu cael gafael ar offer o'r radd flaenaf ac integreiddio ymchwilwyr hynod fedrus yn eu prosiectau arloesol.”
“Braint o'r mwyaf i Brifysgol Caerdydd yw cael cynnal y digwyddiad hwn oherwydd bydd yn rhoi cyfle i'r sector preifat gael gwybod rhagor am y grantiau a'r ffyrdd amrywiol y gallen nhw gymryd rhan yn y prosiectau.”
Yn rhan o'r digwyddiad, rhoddodd Paul Harris, o'r Comisiwn Ewropeaidd, drosolwg o raglen MSCA, a dangosodd sut mae cyfranogiad y sector preifat wedi cynyddu'n raddol. Dywedodd: “Mae model ariannu MSCA yn llawer mwy syml o'i gymharu â gweddill rhaglen Horizon 2020. Mae hyn hefyd yn golygu ei fod yn gynllun deniadol i sefydliadau fel mentrau bach a chanolig eu maint”.
Rhannodd Dr Jean Botti, o Grŵp Airbus, ei farn ynghylch y partneriaethau llwyddiannus rhwng diwydiant a'r byd academaidd, yn ogystal â sut mae Airbus yn cymryd rhan yn rhaglen Horizon 2020. Argymhellodd hefyd y dylai "diwydiant mawr a chwmnïau bach a chanolig chwarae rhan fwy flaenllaw ar y paneli gwerthuso."
Eglurodd An Jansen o Leuven KU yng Ngwlad Belg, sef sefydliad partner strategol Prifysgol Caerdydd, sut mae ei sefydliad yn cydweithio â'r sector preifat mewn prosiectau MSCA. Dyma broses sy'n cael ei hwyluso gan dîm penodol o Reolwyr Ymchwil Diwydiannol ochr yn ochr â chydweithwyr academaidd. "Cyflogir y gweithwyr proffesiynol hyn oherwydd eu harbenigedd gwyddonol, eu gwybodaeth am raglenni ariannu, yn ogystal ag ar sail eu rhwydweithiau proffesiynol," eglurodd.
Bu'r Athro Julie Williams CBE, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yn amlinellu dull arloesol Llywodraeth Cymru o gyfuno cronfeydd cenedlaethol, Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) i gynyddu adnoddau a chefnogi ymchwil diwydiannol drwy gynllun Sêr Cymru II.