Wynebu heriau ym maes meddygaeth frys
13 Mai 2016
Bydd rhai o'r arbenigwyr blaenllaw’r byd ym maes meddygaeth frys fyd-eang yn cwrdd yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf i drafod yr heriau sy'n wynebu adrannau achosion brys ac unedau meddygol acíwt.
Mae Symposiwm Rhyngwladol cyntaf Cymru ar Feddygaeth Frys, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’r Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Meddygaeth Frys (IFEM) yn digwydd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar 16 a 17 Mai.
Bydd y rhaglen, sy'n cynnwys siaradwyr a chynrychiolwyr o bedwar ban y byd, yn cynnwys mwy na 30 o sesiynau, gyda chyflwyniadau, trafodaethau, a gweithdai, yn ogystal ag arddangosfeydd masnachol ac academaidd.
"Rydym yn dod â llawer o'r arbenigwyr blaenllaw yn y maes ynghyd," meddai’r Athro Tim Rainer, trefnydd y symposiwm ac Athro mewn Meddygaeth Frys ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio, yr argyfwng economaidd a'r aneffeithlonrwydd mewn gofal iechyd yn rhoi baich enfawr ar feddygaeth frys a meddygaeth gyffredinol acíwt. Yn y Deyrnas Unedig, mae meddygaeth acíwt a meddygaeth frys yn ddau arbenigedd gwahanol ond agos gysylltiedig ac maent yn gorgyffwrdd. Mae llawer o’r sesiynau a’r darlithoedd yn mynd i'r afael â’r heriau mawr yn y ddau faes hwn."
Thema’r symposiwm yw 'Y Byd yn Dod i Gymru: Wynebu Heriau Mawr yr Oes hon mewn Meddygaeth Frys a Meddygaeth Gyffredinol Acíwt', a bydd y pwyslais ar 'Profiad – Amlygiad – Cyfle' ym maes meddygaeth frys a meddygaeth gyffredinol acíwt.
Bydd y diwrnod cyntaf yn edrych ar y rhyngwyneb a'r heriau sy'n wynebu adrannau achosion brys ac unedau derbyn meddygol acíwt, a bydd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar arloesedd a thrawma.
Ymhlith y siaradwyr mae’r Athro James Ducharme, meddyg brys o Ganada a darpar lywydd y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Meddygaeth Frys. Mae ganddo gyfoeth o brofiad ym maes gofal iechyd cyhoeddus a phreifat, ac mae wedi helpu i ddatrys llawer o'r argyfyngau sy'n wynebu meddygaeth frys yng Nghanada.
Dr Cliff Mann yw llywydd presennol Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Dr Taj Hassan yw’r darpar lywydd. Mae’r symposiwm hefyd yn cynnwys amrywiaeth o arweinwyr rhyngwladol eraill o Ogledd America, Awstralia, Affrica a Hong Kong, yn ogystal ag arbenigwyr o'r Alban, Lloegr a ledled Cymru. Mae'r holl arbenigwyr yn gweithio ar reng flaen meddygaeth frys ac acíwt.
"Mewn mannau eraill yn y byd, meddygaeth frys yn un o'r arbenigeddau mwyaf deniadol ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon newydd," meddai’r Athro Rainer. "Ond yn y DU, mae’r wasgfa ar y system wedi gyrru llawer o feddygon brys disglair a brwdfrydig posibl i ffwrdd. Mae'r gynhadledd hon yn ceisio rhoi llwyfan i’r doniau sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a dangos i’r byd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Y blaenoriaethau cyfredol i’r llywodraeth yw’r GIG, addysg a'r economi. Ein gweledigaeth yw nid yn unig wynebu heriau o ran gofal iechyd brys, ond hefyd addysg a helpu i adeiladu economi."
Heblaw am glinigwyr, ymchwilwyr ac addysgwyr, mae’r symposiwm yn dod ag entrepreneuriaid, arloeswyr, peirianwyr a darpar bartneriaid diwydiannol ynghyd i gynhyrchu atebion i heriau heddiw ac i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc.
Disgwylir dros 200 o gynrychiolwyr, gan gynnwys clinigwyr, nyrsys, parafeddygon a myfyrwyr meddygol.
Cefnogir y symposiwm gan IFEM, sy’n sefydliad byd-eang sy’n ceisio datblygu meddygaeth frys ledled y byd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd sy’n anelu at ddarparu 'gofal brys i bawb'. Mae’r symposiwm yn cael ei gynnal ar y cyd gan Gangen Cymru o Goleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM), Ysgol Meddygaeth Frys Cymru Gyfan (AWSEM) a grŵp Myfyrwyr Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty (PEMS).
Cefnogir y symposiwm ymhellach gan roddion hael gan Brifysgol Caerdydd, Coleg Meddygaeth Frys America, a llu o noddwyr platinwm, aur ac arian.
Mae’r noddwyr platinwm yn cynnwys Squibb Bristol-Myers, Pfizer, Galen, Sir a Dot Medical Ltd.
Mae gwybodaeth am y symposiwm ar gael yn: www.wisem2016.org