Meithrin cysylltiadau â Phacistan
10 Mai 2016
Bydd ysgolheigion ôl-raddedig ymweliadol o un o'r prifysgolion mwyaf ym Mhacistan yn gallu elwa ar ddysgu ac addysgu'r Brifysgol yn rhan o fenter newydd.
Mae cytundeb wedi'i lofnodi rhwng Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol a Phrifysgol Bahauddin Zakariya i geisio hyrwyddo gweithgareddau ysgolheigaidd a dealltwriaeth ryngwladol.
Dyma benllanw misoedd o gynllunio a thrafod gyda'r brifysgol, a bydd yn creu cyfleoedd i ôl-raddedigion ymchwil ymweld â Phrifysgol Caerdydd.
Wrth lofnodi'r cytundeb newydd, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allan: "Rydym wrth ein bodd gyda'r cytundeb newydd hwn fydd yn rhoi'r cyfle i ni ystyried ffyrdd gwahanol y gall ein sefydliadau gydweithio a rhannu syniadau.
“Mae'r rhain yn cynnwys ymchwilio i rai o'r materion cymdeithasol mwyaf dybryd ym maes newyddiaduraeth yn yr oes ddigidol, yn enwedig o ran addysgu ac ymchwil sydd mor bwysig i'r ddwy brifysgol.
"Rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn gyfle cyffrous i staff yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol rannu ein harferion da yn ogystal ag ymgysylltu mewn trafodaeth barhaus a buddiol i bawb."
Cafodd Prifysgol Bahauddin Zakariya ei sefydlu fel Prifysgol Multan yn wreiddiol ym 1975, cyn newid ei henw ym 1979.
Mae ei phrif gampws, 10km o ganol dinas Multan, ar dros 960 o erwau ac mae'n gartref i tua 600 o staff academaidd a thros 26,000 o fyfyrwyr.
Bydd y cytundeb yn galluogi myfyrwyr ymweliadol i gael mynediad at seminarau ymchwil a chyngor academaidd gan diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant hefyd yn gallu manteisio ar wasanaethau dysgu, cefnogaeth a hamdden yn yr un modd â myfyrwyr eraill drwy gydol eu hymweliad.
Ychwanegodd yr Athro Allan: "Hoffwn estyn croeso cynnes i bawb ym Mhrifysgol Bahauddin Zakariya ac edrychaf ymlaen at gydweithio yn y dyfodol."