Diffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus o asideiddio'r cefnforoedd
10 Mai 2016
Astudiaeth yn dangos nad yw'r cyhoedd yn gwybod bod y cefnforoedd yn cael eu hasideiddio.
Mewn arolwg oedd yn cynnwys 2,501 o'r cyhoedd, dim ond un o bob pump o bobl ym Mhrydain sy'n gwybod bod y cefnforoedd yn cael eu hasideiddio o ganlyniad i allyriadau carbon sy'n peryglu cefnforoedd y byd yn fawr.
Ar ben hynny, dim ond 14% o'r sampl oedd â dealltwriaeth sylfaenol am y pwnc.
Cyhoeddwyd canlyniadau'r arolwg cyhoeddus heddiw, 9 Mai, yng nghyfnodolyn Nature Climate Change, a dyma'r asesiad manwl cyntaf o faint mae'r cyhoedd yn ei ddeall am sut mae cefnforoedd yn cael eu hasideiddio.
Er bod bron pawb yn ymwybodol o newid hinsawdd erbyn hyn, mae awduron yr astudiaeth, o Brifysgol Caerdydd, yn dod i'r casgliad nad yw'r un peth yn wir am y broblem amgylcheddol baralel hon a elwir y 'broblem CO2 arall’.
Wrth i ragor o CO2 gael ei roi yn yr atmosffer o ganlyniad i losgi tanwyddau ffosil, y cefnforoedd sy'n amsugno tua traean ohono. Pan mae CO2 yn toddi mewn dŵr môr, mae'n creu asid carbonig sy'n gwneud y cefnforoedd yn llai alcaïaidd ac yn fwy asidig. Ers y 1980au, mae asidedd y cefnforoedd wedi cynyddu 30%. Os bydd CO2 yn parhau i gael ei ollwng ar y gyfradd bresennol, bydd wedi cynyddu 150% erbyn 2100. Mae hyn yn achosi perygl sylweddol i ecosystemau ac organebau'r môr.
Er mwyn dod i'w casgliadau, holodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd sampl gynrychiadol ar draws Prydain oedd yn cynnwys 2,501 o'r cyhoedd. Er mai 20% yn unig o'r ymatebwyr oedd wedi clywed am asideiddio'r cefnforoedd, fe wnaeth y term beri iddynt feddwl am amrywiaeth o gysylltiadau negyddol. Fe berodd i lawer wneud cysylltiad yn syth â'r niwed i ecosystemau ac organebau'r môr, tra bod eraill wedi cysylltu, yn anghywir, llygredd y môr ac arllwysiadau olew a gwastraff cemegau.
Aeth yr ymchwilwyr ati hefyd i asesu effaith yr adroddiadau gwyddonol a gyhoeddwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar gyfer Newid Hinsawdd (IPCC) yn 2013 a 2014 ar lefelau ymwybyddiaeth y cyhoedd o asideiddio'r cefnforoedd. Cafodd y crynodebau hyn gryn sylw ac roeddent yn canolbwyntio'n fwy nag erioed ar rôl y cefnforoedd mewn cysylltiad â newid hinsawdd. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg nad oeddent wedi codi ymwybyddiaeth o asideiddio'r cefnforoedd ymhlith y cyhoedd a gymerodd ran yn yr astudiaeth.
Dywedodd Dr Stuart Capstick, prif awdur yr astudiaeth o Ysgol Seicoleg y Brifysgol: “Er nad oeddem wedi disgwyl gweld lefelau uchel o ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o asideiddio'r cefnforoedd, cawsom ein synnu gan sut roedd y pwnc yn cael ei ddiystyru i'r fath raddau yn ôl pob golwg. Erbyn hyn, mae bron pawb wedi clywed am newid hinsawdd, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall ein rôl ni ynddo, er nad yw pawb yn cytuno ar beth ddylid ei wneud yn ei gylch. Fodd bynnag, dim ond cyfran fach o'n sampl ddywedodd eu bod yn gwybod unrhyw beth am asideiddio'r cefnforoedd.
“Mae astudiaethau gwyddonol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos arwyddocâd asideiddio'r cefnforoedd i ecosystemau'r môr a'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Fodd bynnag, prin ein bod wedi crafu'r wyneb o ran tynnu sylw'r cyhoedd a llunwyr polisïau at y mater”.