Gwobr nodedig i gemegydd o Gaerdydd
9 Mai 2016
Yr Athro Thomas Wirth yn ennill gwobr nodedig gan Gymdeithas Frenhinol Cemeg
Mae'r Athro Thomas Wirth, o'r Ysgol Cemeg, wedi ennill Gwobr Bader 2016 gan Gymdeithas Frenhinol Cemeg.
Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad yr Athro Wirth ym maes cemeg organig, yn enwedig sut mae'n defnyddio priodweddau arbennig mewn dosbarth hynod addawol o adweithyddion sy'n cynnwys ïodin. Mae'r adweithyddion hyn yn cynnig ffordd o greu moleciwlau newydd mewn modd ecogyfeillgar lle nad oes angen defnyddio deunyddiau gwenwynig.
Mae'r adweithyddion hefyd yn defnyddio dyfeisiau bychain iawn, neu feicroadweithyddion, sy'n caniatáu i adweithiau ddigwydd mewn system llif barhaus, gan fanteisio ar y gymhareb fawr arwyneb i gyfaint, er mwyn cyfuno moleciwlau organig.
Mae'r Athro Wirth yn ymuno â rhestr nodedig o enillwyr blaenorol Gwobrau Gymdeithas Frenhinol Cemeg. Mae sawl un wedi mynd ymlaen i ennill Gwobrau Nobel am eu gwaith arloesol, gan gynnwys Harry Kroto, Fred Sanger a Linus Pauling.
Gwerthusir yr enillwyr ar sail gwreiddioldeb ac effaith eu hymchwil yn ogystal ag ansawdd y canlyniadau y gellir eu dangos mewn cyhoeddiadau, patentau neu hyd yn oed feddalwedd. Mae'r gwobrau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y gwyddorau cemegol, a galluoedd unigolion i ddatblygu prosiectau cydweithredol llwyddiannus.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Wirth: "Anrhydedd o'r mwyaf yw ennill y wobr hon ac rwyf yn ystyried hyn fel arwydd bod ymchwil sylfaenol am gemeg ïodin a phwyslais fwy cymhwysol ar ddefnyddio technoleg meicroadweithydd i gyfuno llif, o ddiddordeb i ymchwil academaidd a diwydiannol fel ei gilydd. Mae'r wobr hon hefyd yn cydnabod gwaith caled fy nghydweithwyr a fy mhartneriaid ac mae'n ein hannog i ymchwilio ymhellach ac arwain cemeg yn y meysydd hyn."
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Mae hyn yn newyddion ardderchog ac rwyf yn llongyfarch Thomas yn fawr am ennill y wobr. Mae'r wobr yn cydnabod ei waith sylfaenol ym maes cemeg ïodin hyperfalent a'r ymchwil arloesol i gemeg llif a gynhelir yn yr Ysgol Cemeg. Mae Gwobr Bader yn gydnabyddiaeth hefyd o holl gyfraniadau rhagorol Thomas ym maes cemeg organig ac mae'n dangos bod y maes hwn yn ffynnu yn y DU".
Dywedodd Dr Robert Parker, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Cemeg: "Mae'n anrhydedd cydnabod cyflawniadau arbennig ein henillwyr ar ein pen-blwydd yn 175. Rydym yn falch ein bod yn gallu dathlu a chefnogi gwaith unigolion ysbrydoledig a dylanwadol a allai wella cynifer o fywydau drwy eu gwaith."
Mae'r Athro Wirth wedi ennill Gwobr Teilyngdod Ymchwil Cymdeithas Wolfson hefyd am ei gyfraniadau rhagorol a pharhaus ym maes cemeg organig.
Mae'r Wobr Teilyngdod yn rhoi rhagor o gefnogaeth i brifysgolion er mwyn eu galluogi i recriwtio neu gadw gwyddonwyr o'r radd flaenaf yn y DU. Sefydliad Wolfson a'r Gymdeithas Frenhinol sy'n cyd-ariannu'r wobr.