Datgelwyd cliwiau newydd o gloddiadau yng Nghastell Ffwl-y-mwn (Fonmon)
23 Ebrill 2025
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cadarnhau bod anheddiad cynhanesyddol wedi'i ddarganfod mewn atyniad poblogaidd i ymwelwyr yn Ne Cymru.
Mae profion gwyddonol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar olion archeolegol o Gastell Ffwl-y-mwn ym Mro Morgannwg.
Roedd cloddio blaenorol eisoes wedi datgelu mynwent hynafol, sy’n ddarganfyddiad archeolegol mawr, ac yn taflu goleuni newydd ar fywyd yng Nghymru'r Canoloesoedd Cynnar (AD400-1100). Ceir tystiolaeth o wledda defodol, gyda thua hanner y 80 o gladdedigaethau wedi’u hailddarganfod hyd yn hyn.
Eleni, cloddiwyd ffos newydd i ymchwilio i ardal o dir y castell lle nododd arolygon geoffisegol safle archeolegol arall posibl. Mae'r cloddio hwnnw wedi datgelu rhan o anheddiad o'r Oes Haearn, a leolir ychydig i'r gorllewin o'r castell. Hyd yn hyn, dim ond y ffos wrth fynedfa'r anheddiad sydd wedi'i datguddio. Canfyddiad allweddol oedd ysgerbwd ci a osodwyd yn fwriadol yn ffos y fynedfa, sy’n debygol o fod wedi’i roi yno’n rhan o ddefod i amddiffyn yr anheddiad.

“Darganfyddiad pwysig”
Dywedodd Dr Andy Seaman, darllenydd mewn archeoleg canoloesol cynnar yn Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Roedd y ci wrth y fynedfa i'r amgaead. Roedd yr ysgerbwd yn gyflawn, ac wedi’i osod yn fwriadol iawn ar waelod y ffos. Mae hyn yn rhywbeth a welwn mewn safleoedd eraill o'r Oes Haearn ym Mhrydain, a chredwn ei fod yn ymwneud â rôl cŵn yn warcheidwaid symbolaidd.
“Mae'r ysgerbwd wedi cael ei ddyddio â radiocarbon i oddeutu 700 i 500 CC, sef yr Oes Haearn gynnar - does dim llawer o safleoedd yng Nghymru o’r cyfnod hwn, felly mae’n ddarganfyddiad pwysig.”

Bydd y tîm hefyd yn dadansoddi'r holl ddarganfyddiadau eraill o'r ffos ragarweiniol, gan gynnwys ychydig bach o grochenwaith a llawer o esgyrn anifeiliaid, sy'n awgrymu dyddodion gwastraff o'r anheddiad. Bydd y rhain yn dweud llawer wrth y tîm am yr economi, ffermio a'r amgylchedd ar yr adeg yr oedd yr anheddiad yn cael ei ddefnyddio.

“Rydyn ni bellach wedi sefydlu bod gan y safle botensial ymchwil da,” meddai Dr Seaman.

Gall ddweud llawer wrthyn ni am yr Oes Haearn gynnar - cyfnod nad ydyn ni’n deall llawer yn ei gylch yn y rhanbarth hwn. Wrth fynd ymlaen, byddwn yn torri ffosydd pellach i geisio gweld a allwn nodi tystiolaeth o dai ar y safle, a hefyd i gloddio mwy o'r ffos amgaeedig er mwyn cael mwy o dystiolaeth ynglŷn â'i defnydd.
Ychwanega fod y darganfyddiad yn datgelu pennod newydd hynod ddiddorol o hanes Ffwl-y-mwn.
“Mae'n ychwanegu llawer at ein dealltwriaeth o hanes y safle, gan ei gwthio yn ôl y tu hwnt i'r cyfnod Rhufeinig i gynhanes. Mae'n dangos nad y castell oedd y gymuned gyntaf i fanteisio ar y rhan benodol honno o'r dirwedd.”

Wrth siarad am y darganfyddiadau o'r fynwent, dywedodd y bioarcheolegydd Katie Faillace, sydd hefyd wedi'i lleoli yn Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wedi cyrraedd cam cyffrous iawn nawr, lle rydyn ni'n dechrau adeiladu darlun llawnach o'r bobl a gladdwyd yn y fynwent. Mae ein gwaith isotopig cychwynnol yn awgrymu bod gan lawer o'r bobl darddiad lleol.”

Gallwn ni weld bod gan un o'r unigolion ddirywiad yn ei gymalau sy’n golygu ei fod wedi dioddef o glefyd fel osteoarthritis, ac rydyn ni wedi dod o hyd i unigolyn byr dros ben. Cymerwyd profion DNA felly bydd ein gwaith labordy yn datgelu mwy o fanylion yn ystod y misoedd nesaf.
Mae Castell Ffwl-y-mwn yn dyddio mewn rhannau i gyfnod Normanaidd. Fe'i prynwyd yn 2019 gan Nigel Ford, sydd wedi ei agor i'r cyhoedd fel atyniad i ymwelwyr a lleoliad digwyddiadau. Yn awyddus i ddarganfod mwy am orffennol y castell, gwahoddodd dîm Prifysgol Caerdydd i ymchwilio, gyda’r arolygon cyntaf yn cael eu cynnal yn 2021.

“Rydyn ni wrth ein boddau wrth weld canlyniadau’r ymchwiliadau archeolegol,” meddai. “Pan ddechreuon nhw, fyddai neb wedi gallu rhagweld darganfyddiad mor bwysig â'r fynwent ganoloesol - ac erbyn hyn mae gennyn ni dystiolaeth glir o feddiannaeth yr Oes Haearn hefyd.
“Mae hyn yn amlygu pa mor hir mae pobl wedi cael eu denu i ymgartrefu yn yr ardal hon, gan wneud i'r castell ymddangos yn ychwanegiad cymharol ddiweddar.”
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu tîm archeolegol Prifysgol Caerdydd yn ôl eto yn 2025 ar gyfer cam nesaf y gwaith cloddio, pan gobeithiwn ni y bydd mwy yn cael ei ddatgelu am y fynwent ganoloesol a'r amgaead Oes Haearn.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.