Myfyrwyr ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau
17 Ebrill 2025

Mae 2 fyfyriwr o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLAs) eleni.
Mae'r ESLAs, sy'n cael eu cynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn dathlu gwaith staff a myfyrwyr sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at brofiad y myfyrwyr.
Mae myfyriwr blwyddyn olaf, Jack Thomas, wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Pencampwr Addysg Gymraeg. Mae'r wobr hon yn dathlu aelod o staff neu fyfyriwr sy'n gosod esiampl dda mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg yng Nghymru, yn rhoi gwybodaeth am y Gymraeg ac yn annog myfyrwyr i'w defnyddio. Maen nhw hefyd yn cyflwyno pobl i'r iaith drwy ddefnyddio Cymraeg achlysurol wrth sgwrsio, yn creu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â hanes a diwylliant Cymru ac yn annog y rhai sydd eisoes yn siarad Cymraeg i ymgysylltu â'u dysgu a'u haddysgu drwy'r Gymraeg.
Wrth siarad am ei enwebiad dywedodd Jack, sy'n astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu:
“Roeddwn i'n synnu o glywed fy mod i wedi cael fy enwebu ac ar y rhestr fer ar gyfer y wobr. Mae wir yn anrhydedd cael y gydnabyddiaeth hon a chael eich enwi ochr yn ochr ag unigolion gwych ac uchel eu parch.
“Mae'r Gymraeg yn hanfodol i mi. Mae'n rhan o fy hunaniaeth a'm gwreiddiau. Gall bywyd yn y brifysgol ddod â newid i lawer o bobl, ac i ninnau’n fyfyrwyr, mae'n amser i ddysgu, datblygu a thyfu, ond rwy'n credu ei fod yn cynnig cyfle i'r iaith ffynnu ac i ni glywed yr iaith yn cael ei defnyddio’n eang. Rwyf wrth fy modd yn clywed Cymraeg yn cael ei siarad ar hyd coridorau'r brifysgol, yng ngheginau Tal-y-bont ac yn Undeb y Myfyrwyr ar nosweithiau Mercher.”
Myfyriwr arall sydd wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau yw Grace D'Souza, sydd wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Diben y wobr hon yw cydnabod myfyrwyr sydd wedi mynd yr ail filltir yn ystod y flwyddyn er mwyn gwneud profiad y myfyrwyr yn well i'w cyd-fyfyrwyr. Grace yw Swyddog Iechyd Meddwl Undeb y Myfyrwyr, ac mae wedi cael ei henwebu am y wobr ar sail y gwaith hwn.
Cawn wybod pwy yw’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal ar 9 Mai. Pob lwc i Jack a Grace!