Mae angen camau brys i ddiogelu ymchwil ar DA yn y DU
17 Ebrill 2025

Mae angen camau brys i ddiogelu ymchwil ar ddeallusrwydd artiffisial (DA) yn y DU rhag bygythiadau gelyniaethus, yn ôl adroddiad.
Mae’r adroddiad, gan academyddion yn Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd (SCIII) o dan arweiniad y Ganolfan er Technoleg a Diogelwch sy'n Esblygu (CETAS) yn Sefydliad Alan Turing, yn canolbwyntio ar ofnau cynyddol bod ymchwil ar DA yn y DU yn darged penodol a blaenoriaeth uchel i actorion gwladwriaethol bygythiol sy'n chwilio am fanteision technolegol.
Mae'r adroddiad yn dadlau nad yw ymwybyddiaeth o’r risgiau diogelwch yn gyson ar draws y sector academaidd a bod diffyg cymhellion i ymchwilwyr ddilyn canllawiau presennol y llywodraeth ar ddiogelwch ymchwil.
Felly mae angen newid y diwylliant ar frys, gan gynnwys cydbwyso’r tensiwn rhwng diogelwch ymchwil a'r pwysau y mae academyddion yn eu hwynebu i gyhoeddi eu hymchwil.
Ar hyn o bryd ceir ansicrwydd rhwng y mesurau a orfodir gan y Llywodraeth ac eglurder y cymorth sy’n cael ei gyfleu i academyddion. Mae deall sut y gall y Llywodraeth ac academyddion gysoni eu gwaith yn fwy yn hollbwysig i sicrhau gwydnwch ymchwil ar DA yn y DU.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr anawsterau sy’n wynebu academyddion wrth asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’u hymchwil - er enghraifft y camddefnydd ohoni yn y dyfodol - a'r angen i gynnal diwydrwydd dyladwy llafurus ar bartneriaid ymchwil rhyngwladol, heb wybod yn glir iawn pa rai yw’r bygythiadau cyfredol.
Mae'r adroddiad yn cynnig 13 argymhelliad i helpu'r llywodraeth a'r byd academaidd i feithrin gwytnwch yr ecosystem ymchwil hon sy’n ehangu.
Mae’r ffaith bod y DU wedi blaenoriaethu rhagor o ymchwil ar DA yn arwain at lu o fanteision, ond mae hefyd yn golygu risgiau o ran bygythiadau i ymchwil ar DA yn y DU. Mae anawsterau wrth ragweld y defnydd o dechnolegau defnydd deuol a diffyg eglurder yn y canllawiau presennol yn achosi gwrthdaro rhwng sicrhau ymchwil o'r fath a diogelu rhyddid academaidd. Anogir y llywodraeth a'r byd academaidd i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan daro’r cydbwysedd cywir rhwng y ddau drwy hyrwyddo a chefnogi newid yn y diwylliant.”
Ymhlith yr argymhellion i Lywodraeth y DU y mae’r angen am arweiniad rheolaidd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), gyda chefnogaeth yr Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Gwladol (NPSA), ar y sefydliadau rhyngwladol a ystyrir yn risg uchel at ddibenion cytundebau a chydweithio, a mwy o gyllid pwrpasol i ehangu'r Tîm Cyngor ar Gydweithio ac Ymchwil i gefnogi diwydrwydd dyladwy academaidd.
Mae'r adroddiad hefyd yn annog Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) i ddarparu cyfleoedd cyllid grant i greu gweithgareddau diogelwch ymchwil.
Ymhlith yr argymhellion ar gyfer y byd academaidd mae awduron yr adroddiad o'r farn y dylai fod yn ofynnol i bob sefydliad academaidd ddarparu hyfforddiant diogelwch ymchwil a achredir gan NPSA i staff newydd a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn rhagamod cyllid grant.
Cewch ddarllen yr adroddiad llawn: 'Securing the UK’s AI Research Ecosystem'