Dathlu myfyrwyr rhagorol a fu ar leoliad
17 Ebrill 2025
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd Wobrau Lleoliadau Myfyrwyr Israddedig, sef noson i dynnu sylw at gampau ein myfyrwyr fu ar leoliad.
Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025, yn cydnabod cyfraniadau rhagorol y mae myfyrwyr fu ar leoliad wedi’u gwneud i fusnesau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Gan ddod â dros 30 o fyfyrwyr dawnus ynghyd, roedd y noson yn dyst i’w hymroddiad, eu gwaith caled, a’r effaith ystyrlon y maen nhw wedi’i chael yn ystod eu lleoliadau.
“Roedd cydnabod eu cyflawniadau a’r effaith y maen nhw wedi’i chael yn ystod eu lleoliadau yn destun ysbrydoliaeth. Mae pob un ohonyn nhw wedi rhagori, ac rydyn ni’n hynod falch o’u hymroddiad a’u gwaith caled!”
Diolch i noddwyr y gwobrau - Grŵp CELSA, ICAEW, a Grŵp CriSeren - am eu cefnogaeth hael a wnaeth y digwyddiad hwn yn bosibl.
Llongyfarchiadau i'r enillwyr a'r myfyrwyr a gafodd gymeradwyaeth uchel.
Myfyriwr Gorau’r Flwyddyn fu ar Leoliad
- Enillydd - Tanisha Doshi
- Cymeradwyaeth uchel – Millie Crocker
Y cyfraniad gorau i fusnes bach neu ganolig
- Enillydd – Zoe Barrett
- Cymeradwyaeth uchel – Emily Wright
Intern y Flwyddyn
- Enillydd – Amy Beilby
- Cymeradwyaeth uchel – Madison Ridley
Stori Tanisha
Yn y fideo hwn, mae enillydd Myfyriwr Gorau’r Flwyddyn fu ar Leoliad, sef Tanisha, wedi rhannu manteision amrywiol ei phrofiad ar leoliad yn GSK:
Dywedodd Amy Beilby, enillydd Intern y Flwyddyn: “Rwy'n methu â chredu fy mod i wedi ennill. Roeddwn i mewn ystafell o enwebeion cryf iawn a oedd i gyd wedi gwneud pethau anhygoel yn rhan o’u hinterniaethau. Mae'r wobr hon yn brawf o'r cyfle y cefais i ddatblygu yn Castalia. Roeddwn i’n gallu gweithio ar brosiectau ar y cyd â Banc y Byd ac USAID ar ddatblygu seilwaith byd-eang. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i weithio ar brosiectau sydd wedi cael cymaint o effaith, ac sydd wedi bod o fudd i mi o ran fy nyhead a'm hangerdd dros faes economeg wrth edrych tua’r dyfodol.”
Dywedodd Zoe Barrett, enillydd gwobr y Cyfraniad Gorau i Fusnesau Bach a Chanolig: “Fe wnes i fwynhau fy mlwyddyn ar leoliad proffesiynol gyda W H Brakspear & Sons, lle dysgais i gymaint am y diwydiant. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i gael cymaint o gyfleoedd a phrofiadau anhygoel. Mae wedi fy annog i gryfhau fy angerdd dros farchnata a dilyn gyrfa yn y maes hwn. Ar ôl blwyddyn mor werthfawr, roeddwn i wrth fy modd fy mod wedi derbyn y wobr hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn i leoliadau gwaith CARBS am eu cydnabyddiaeth a'u mentora drwy gydol y broses hon. I unrhyw un sy'n ystyried blwyddyn ar leoliad proffesiynol, byddwn i’n ei hargymell yn gryf. “
Mae modd i israddedigion Ysgol Busnes Caerdydd dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol wrth astudio ar gyfer eu gradd. Mae’r cwrs Rheoli Busnes (BSc) hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwblhau lleoliad integredig yn semester y gwanwyn yn eu hail flwyddyn.
Cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig.