Mwyafrif llethol o Americanwyr yn cefnogi cosbi pobl am ddefnyddio trais gwleidyddol, er bod rhagfarn bleidiol yn amlwg ar ddwy ochr y sbectrwm
16 Ebrill 2025

Yn ôl ymchwil, byddai Americanwyr yn rhoi pedwar mis ychwanegol yn y carchar i’w gwrthwynebwyr gwleidyddol, ac maent yn fwy tebygol o fod eisiau rhyddhau eu cynghreiriaid os ydynt yn defnyddio trais gwleidyddol.
Yr astudiaeth hon, sy’n cael ei harwain gan Dr Joseph Phillips o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yw’r gyntaf o’i math i ystyried y ffactorau sy’n dylanwadu ar farn pobl ar gosbi unigolion am ddefnyddio trais gwleidyddol.
Cyflwynodd dau arolwg cenedlaethol gynrychioladol fwy neu lai yr un senario ddamcaniaethol i ddinasyddion America, sef y bu protest ym mhrifddinas eu talaith a drodd yn dreisgar, gan arwain at wrthdaro rhwng protestwyr a gwrth-brotestwyr a nifer o arestiadau.
Gwerthusodd yr ymatebwyr broffiliau wedi’u cynhyrchu ar hap o’r rheini yr honnir iddynt gyflawni gweithred o drais gwleidyddol honedig yn ystod protest ddamcaniaethol a aeth o chwith. Roedd gofyn ystyried ffactorau amrywiol megis eu trosedd, eu hoedran, eu hethnigrwydd, eu rhyw, eu galwedigaeth, eu statws priodasol a’u statws o ran bod yn rhiant neu beidio. Ystyriwyd hefyd a oeddent yn cefnogi’r Blaid Weriniaethol, y Blaid Ddemocrataidd neu’n Annibynnol, ac a oeddent yn byw yn y ddinas neu’r dalaith lle digwyddodd y brotest.
Cafodd un cyflawnwr ar y tro ei gyflwyno i’r cyfranogwyr yn yr arbrawf un proffil. Cafodd pum cyflawnwr eu cyflwyno i gyd. Ar gyfer pob cyflawnwr, roedd angen i’r cyfranogwyr bennu cosb gyfreithiol ar ei gyfer pe byddai’n cael ei ddyfarnu’n euog, gan gynnwys defnyddio graddfa chwe phwynt i nodi’r tebygrwydd bod y weithred wedi’i hysgogi gan reswm da.
Cafodd dau gyflawnwr eu cyflwyno i’r cyfranogwyr yn yr arbrawf dau broffil. Cafodd saith pâr eu cyflwyno i gyd. Roedd angen i’r cyfranogwyr benderfynu pa gyflawnwr y byddent yn peidio â’i gyhuddo.
Dywedodd Dr Phillips: “Mae ein dadansoddiad o'r arbrofion hyn yn dangos bod Americanwyr ar ddwy ochr y sbectrwm gwleidyddol yn cymryd trais gwleidyddol o ddifrif a’u bod am gosbi’r bobl hynny sy’n cymryd rhan ynddo, yn enwedig wrth i ddifrifoldeb y weithred waethygu. Roedd bron pawb yn unfrydol y dylid cosbi pobl am gyflawni gweithredoedd sy’n bygwth bywydau neu sy’n achosi difrod parhaol i eiddo.
Er gwaethaf hyn, mae ein hymchwil yn dangos bod barn wleidyddol y cyflawnwr yn dylanwadu’n fawr ar y gosb y mae pobl yn eu hargymell. Mae’r rheini sy’n cefnogi plaid wleidyddol benodol, yn enwedig y rhai â barn sy’n fwy ar y cyrion, yn fwy tebygol o gondemnio troseddwyr honedig sy’n cefnogi plaid wahanol na throseddwyr nad ydyn nhw’n perthyn i blaid neu droseddwyr sy’n cefnogi’r un blaid.
“Pan oedd yn rhaid i ymatebwyr ddewis pwy i’w ryddhau, roeddent 6 phwynt canrannol yn fwy tebygol o ryddhau troseddwyr o’r un farn wleidyddol na throseddwyr â barn wleidyddol wrthwynebol. Pan oedd modd iddynt ddewis cosb, roedd troseddwyr â barn wleidyddol wrthwynebol 2.4 pwynt canran yn fwy tebygol o gael eu carcharu a threulio pedwar mis ychwanegol yn y carchar na throseddwyr o’r un farn wleidyddol.
“Fodd bynnag, mae safonau dwbl yn dylanwadu llawer mwy ar faint mae pobl yn cydymdeimlo â chyflawnwyr nag ar ba mor drugarog ydynt wrth bennu cosb. O gael y dewis, roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr am garcharu cyflawnwyr trais gwleidyddol. O beidio â chael y dewis i gosbi'r ddau gyflawnwr, mynegodd llawer o’r ymatebwyr awydd i wneud hynny. Mae hyn yn awgrymu bod Americanwyr, er eu bod o bosib yn cydymdeimlo â’r cyflawnwyr, yn credu nad yw trais gwleidyddol yn dderbyniol.”
Mae When Push Comes to Shove: How Americans Excuse and Condemn Political Violence wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Political Behaviour.
Rhannu’r stori hon
Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.