Mae awduron yn dadlau y gallai syniadau o 'lesiant' sy’n cael eu gwthio gan gorfforaethau gael effaith negyddol ar iechyd emosiynol
15 Ebrill 2025

Yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd, mae cymdeithas yn llawn negeseuon sy’n rhoi gorchmynion ac yn cyfyngu arnoch chi, ac yn dweud wrthych chi pwy sydd a sut i fod yn ‘iawn’.
Yn ei llyfr newydd, Look, Don’t Touch, mae Dr Francesca Sobande, sy’n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol, a’i chyd-awdur, layla-roxanne hill, yn manylu ar y ffyrdd y mae pobl yn cael eu cefnogi – a’u rhwystro – rhag brofi gwir ryddid i fynegi eu hunain yn y gymdeithas sydd ohoni.
Drwy archwilio genres amrywiol o gerddoriaeth, o nu-metal i hip-hop, y weithred o ddeunydd “hunangymorth” ar y cyfryngau cymdeithasol, a phortreadau pwerus ar y sgrin o farwoldeb ac “angenfilod”, mae Sobande a hill yn mynd i'r afael â’r modd y mae diwylliant poblogaidd a’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi hwb i rai canfyddiadau a phrofiadau o deimladau, ac yn rhwystro rhai eraill.
Dechreuodd y syniad ar gyfer y llyfr wrth i’r awduron drafod cyfarwyddiadau mewn arwyddion cyhoeddus ac mewn normau cymdeithasol sy’n cyfyngu ar unigolion, megis “edrychwch” ond “peidiwch â chyffwrdd” neu gael eu trin fel pe baen nhw’n cael eu “gweld” ond “ddim yn cael clywed”. Gan fyfyrio ar fwy na phrofiadau diriaethol o gyfarfod yn unig, mae gwaith Sobande a Hill yn mynd i’r afael â gwahanol brofiadau sy’n gallu cyffwrdd â phobl yn emosiynol a chyffwrdd â’u calonnau.
Mae'r awduron yn archwilio i’r pwysau sy’n bodoli mewn cymdeithas i arsylwi sefyllfaoedd yn oddefol, neu osgoi mynegi emosiynau yn hytrach na'u teimlo a'u mynegi'n llawn. Mae Sobande a hill yn amlygu’r angen i fynd y tu hwnt i ymagwedd “edrychwch, peidiwch â chyffwrdd” i ddeall a mynd i’r afael â deimladau, systemau gormesol, a bywydau amrywiol. Mae eu llyfr yn ystyried yr hyn sy'n cyfrannu at greu cysylltiadau ystyrlon rhwng gwahanol bobl, rhywogaethau a mannau.
Dywedodd Dr Sobande: “Mae angen llawer mwy na’r hen ddihareb rhagrithiol ‘ei bod hi’n iawn peidio teimlo’n iawn’, a bod pobl yn derbyn cefnogaeth go iawn i fynd i’r afael â’r heriau yn eu bywydau a’r achosion sy’n sail iddyn nhw."
Mae pobl angen ac yn dyheu i deimlo a bodoli mewn ffyrdd sy'n llawer mwy na syniadau gwag am 'les' sy'n cael eu gwthio gan gorfforaethau. Mae ein llyfr yn dadlau y gall yr union syniad o 'fod yn iawn' gael effaith andwyol ar iechyd emosiynol unigolion
Wrth drafod rôl hanfodol cerddoriaeth mewn sawl ffurf ar fynegiant emosiynol, rhyddhau emosiynau, a chymuned, meddai Dr Sobande: “Mae cerddoriaeth yn rhan o bwy ydyn ni’n caru, o’r ffordd rydyn ni’n caru ac yn cael ein caru, yn ogystal â bod yn rhan o bwy a sut ydyn ni.”
Mae trafodaeth y gyfrol ar gerddoriaeth yn pwysleisio pwysigrwydd lleoliadau llawr gwlad i gynnal gigiau, a phwysigrwydd eu cefnogi’n gynaliadwy, adrodd straeon trwy ganeuon, a phwysigrwydd materol a defodol recordiau finyl.
Wrth sôn am deitl y llyfr, dywedodd Dr Sobande: “Mewn ambell sefyllfa, efallai y bydd y syniad o 'edrychwch, peidiwch â chyffwrdd' yn angenrheidiol, p'un a yw'n cael ei ddweud ai peidio. Ond ni ddylid drysu'r adegau hynny gydag adegau pan mai negeseuon sy’n ymwneud ag ymdrechion sefydliadau i reoli ymddygiad ac emosiynau pobl yw 'edrychwch, peidiwch â chyffwrdd'. Mae’r rhain yn eu rhwystro pobl/ yn ein rhwystro ni rhag cysylltu â'r lleoedd sydd o'u cwmpas a phopeth ynddyn nhw.
“Ar y cyfan, mae’r llyfr newydd yn myfyrio ar wleidyddiaeth, pŵer, poen, chwareusrwydd, a phleserau teimlo emosiynau.”
Gellir prynu Look, Don't Touch o 404 Ink yma (fel e-lyfr neu mewn print) ac o Waterstones yma.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.