Risgiau gwyngalchu arian ym maes addysg uwch – grant newydd wedi’i ddyfarnu i academydd ym maes y Gyfraith
15 Ebrill 2025

Mae Nicholas Ryder, Athro yn y Gyfraith, wedi cael grant ymchwil gwerth £18,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joffe i barhau â’i waith ymchwil ar wyngalchu arian a’r risgiau y mae sefydliadau addysgol a myfyrwyr yn y DU yn eu hwynebu.
Mae gan y DU rai o’r prifysgolion gorau yn y byd, ac ym mlwyddyn academaidd 2021-2022, dewisodd bron i 2.9 miliwn o fyfyrwyr astudio yma. Fodd bynnag, mae statws uchel addysg a’r symiau mawr o arian sy’n cael eu gwario arni wedi gwneud prifysgolion yn agored i droseddau ariannol, a hynny oherwydd diffyg rheoleiddio yn y sector. Mae gwyngalchu arian yn cyfeirio at y technegau a ddefnyddir gan droseddwyr i guddio’r enillion o’u troseddau, gan eu galluogi i wario eu helw anghyfreithlon heb gael eu canfod.
Bydd grant Ymddiriedolaeth Elusennol Joffe yn galluogi’r Athro Ryder, sy’n gweithio ar y cyd â Dr Samantha Mapston o Ysgol y Gyfraith Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr, i drin a thrafod sut y gall sefydliadau addysgol gael eu tynnu i mewn i’r broses o wyngalchu arian yn anfwriadol drwy dderbyn enillion troseddau ar ffurf ffioedd neu roddion.
Yn ogystal â’r risgiau i sefydliadau, mae unigolion yn aml yn cael eu tynnu i mewn i’r broses, hefyd – mae myfyrwyr yn cael eu targedu’n fwyfwy i fod yn 'fulod arian' er mwyn gwyngalchu arian anghyfreithlon.
Dechreuodd yr Athro Ryder a Dr Mapston ar eu gwaith ym mis Ebrill 2025 a byddan nhw’n parhau i ymchwilio i’r pwnc am 9 mis. Eu nod yw casglu tystiolaeth sy’n dangos natur a maint y risgiau i sefydliadau addysgol y DU a’u myfyrwyr, yn ogystal â gwella dealltwriaeth o’r camau gweithredu y mae prifysgolion, eu rheoleiddwyr ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd.
Wrth sôn am y grant, dywedodd yr Athro Ryder: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal ymchwil newydd sy’n adnabod y risgiau cynyddol y mae prifysgolion a’u myfyrwyr yn eu hwynebu o ran troseddau ariannol a sut mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn ymateb iddyn nhw. Mae gennyn ni eisoes nifer o asiantaethau gorfodi’r gyfraith sydd â diddordeb yn neilliannau ein gwaith ac rwy’n gobeithio y bydd ein hymchwil yn arwain at rywfaint o ddiwygio yn y sector.”
Mae’r Athro Ryder yn llais arwyddocaol ym maes ymchwil i droseddau ariannol, gan edrych ar ei natur esblygol a datblygu datrysiadau technolegol sy’n hwyluso’r gwaith o orfodi’r gyfraith. Mae wedi ymgymryd â rolau cynghori yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi bod yn Gynghorydd Arbennig i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref drwy gydol ei ymchwiliad i dwyll.
Yn gyffredinol, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Joffe yn ariannu elusennau bach yn y DU sy'n gwneud grant yr Athro Ryder yn anarferol. Eu nod yw cefnogi arweinwyr cymdeithas sifil i sicrhau byd tecach gyda ffocws ar gryfhau integredd systemau ariannol rhyngwladol y DU.