Ewch i’r prif gynnwys

Byrbrydau’n effeithio ar dwf plant

15 Ebrill 2025

Oedolyn yn torri gellyg

Gallai byrbrydau a phori drwy gydol y dydd, yn hytrach na bwyta ar amseroedd strwythuredig, gyfyngu ar dwf plant, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae astudiaeth newydd wedi ymchwilio i ddylanwad amseroedd bwyd strwythuredig a phori parhaus ar hormonau sy'n rheoli twf, gan ddangos y gallai'r newid o fwyta prydau rheolaidd i fwyta byrbrydau fod yn niweidiol i dwf.

O ystyried y newid cyfoes oddi wrth brydau rheolaidd amser brecwast, cinio a swper, tuag at fyrbrydau, roeddem am ddeall sut y gallai’r newid hwn fod â goblygiadau posibl o ran twf.
Dr Tim Wells, prif awdur yr ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd

Aeth ymchwilwyr ati i weld sut mae pori (dognau bach rheolaidd) a bwydo prydau (tri phryd mawr) yn dylanwadu ar dwf llygod a llygod mawr, gan ddadansoddi hefyd y newidiadau yn lefelau dau hormon sy'n rheoli twf, sef hormon twf a ghrelin. Mesurwyd y rhain hefyd mewn astudiaeth ddynol yn cymharu effeithiau pori a bwydo prydau ar wirfoddolwyr a oedd yn cael eu bwydo â thiwb.

Mae Ghrelin yn cael ei ryddhau o stumog wag ac yn arwydd bod unigolyn eisiau bwyd. Mae'n rhoi hwb i’r weithred o ryddhau hormon twf. Mae hyn yn cyflymu twf yn ystod plentyndod ac yn helpu cynnal meinweoedd ac organau drwy gydol ein hoes.

Cynhaliodd y tîm astudiaeth ar wahân yn mesur lefelau hormonau mewn bodau dynol, y ogystal ag ar fodelau anifeiliaid, gan gymharu fwydo ar sail pori neu fwydo prydau cyfan mewn gwirfoddolwyr sy’n cael eu bwydo trwy diwb nasogastrig.

Roeddem yn gallu mesur effaith pori a bwydo prydau mewn llygod mawr a llygod trwy fesur lled plât twf y grimog (tibia) - mae hwn yn arwydd o dwf cywir mewn llygod mawr a llygod. Gwelsom fod twf ysgerbydol yn cyflymu mewn llygod a oedd yn bwyta prydau bwyd.
Dr Amanda Hornsby o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a phrif ymchwilydd

“Fe wnaethon ni hefyd edrych ar hyn mewn llygod oedd heb dderbynyddion ar gyfer ghrelin - cafodd y newidiadau hyn eu gwrthdroi yn y llygod yma. Yn absenoldeb gweithred ghrelin, ni thyfodd llygod a oedd yn cael eu bwydo â phrydau cyfan cystal, ac ni chafwyd unrhyw ostyngiad mewn llygod oedd yn pori.”

Mewn llygod mawr oedd yn pori, treblodd hormon twf mewn llygod mawr oedd cael eu bwydo â phrydau llawn, gyda dau gyfnod ychwanegol o hormon twf yn cael ei ryddhau bob dydd.

Cefnogwyd canfyddiadau'r ymchwilydd mewn llygod mawr a llygod hefyd mewn astudiaeth ddynol gyfochrog, a edrychodd ar bori parhaus o'i gymharu â bwydo prydau mewn gwirfoddolwyr â thiwb o’r trwyn i’r stumog a ddefnyddir ar gyfer bwydo a rhoi meddyginiaeth.

“Fe wnaethon ni ddarganfod bod pori parhaus yn achosi i lefelau ghrelin (hormon newyn) aros yn uchel mewn bodau dynol – fel petaen nhw’n dal i fod yn llwglyd. Arweiniodd hyn at lefelau uchel o ran hormon twf yn barhaus. Er mwyn bod yn effeithiol wrth hybu twf, mae angen i lefelau hormon twf ddangos cynnydd a gwendidau naturiol mewn pyliau rhythmig. Felly, gallai diffyg pyliau o ryddhau hormon twf a gynhyrchir gan bori parhaus rwystro twf mewn bodau dynol,” ychwanegodd Dr Wells.

Pan dderbyniodd gwirfoddolwyr â thiwbiau o’r trwyn i’r stumog yr un maeth, ond mewn prydau ar wahân, gostyngodd lefelau ghrelin ar ôl pob pryd, a oedd yn hwyluso pyliau o ryddhau hormon twf.

Perfformiwyd yr astudiaeth hon gyda llygod mawr, llygod a bodau dynol gwrywaidd yn unig.

Mae ein canfyddiadau’n dangos bod pyliau rheolaidd o ghrelin a gynhyrchir gan brydau bwyd yn cynyddu rhythmau’r hormonau sydd fel arfer yn hybu twf ysgerbydol.
Dr Tim Wells, prif awdur yr ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd

“Ar y llaw arall, mae’r lefelau uchel parhaus o ghrelin a gynhyrchir gan bori yn arwydd o newyn a all arafu twf, hyd yn oed pan fydd y maetholion yn cael eu darparu.

“Mae gan yr ymchwil hwn oblygiadau ehangach o ran sut y dylem fod yn bwydo ein plant, gan ganolbwyntio ar amseroedd bwyd strwythuredig er mwyn sicrhau eu twf iach.

“Mae’r astudiaeth hon yn cynnwys llygod, llygod mawr a bodau dynol gwrywaidd yn unig, a bydd ymchwil pellach yn dangos effaith y patrymau bwydo hyn ar fodau benywaidd.”

Cyhoeddwyd erthygl ‘Meal-feeding promotes skeletal growth by ghrelin-dependent enhancement of growth hormone rhythmicity’ yn y Journal of Clinical Investigation. Cynhaliwyd yr ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Caerwysg.