Ewch i’r prif gynnwys

Undeb y Prifysgolion a’r Colegau’n cadarnhau dyddiadau

11 Ebrill 2025

An image of a building with a red overlay, a white line across the middle, and bold white text that reads 'Industrial Action'

Darllenwch neges gan Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 11 Ebrill.

Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.

Annwyl fyfyriwr,

Yn ddiweddar, cafodd Undeb y Prifysgolion a’r Colegau fandad i streicio, ac mae’r Undeb bellach wedi cadarnhau y bydd hyn yn cynnwys boicot marcio ac asesu, a fydd yn dechrau ar 6 Mai. Mae diwrnodau streic hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer 1 Mai, 6 Mai, 9 Mehefin a 23 tan 27 Mehefin.

Mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol a minnau’n deall yn llwyr pa mor siomedig yw’r newyddion hyn.

Nid ydyn ni’n gwybod pa ysgolion neu raglenni y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, na sut. Ni fydd rhai aelodau o’r staff yn cymryd rhan, sy’n golygu efallai na fydd hyn yn effeithio arnoch chi. Bydd llawer ohonoch chi’n cael eich canlyniadau mewn pryd, yn symud yn eich blaen ac (os ydych chi yn eich blwyddyn olaf) yn graddio yn ôl y bwriad.

Fodd bynnag, mae’n ddrwg iawn gennyn ni ddweud y gallai hyn darfu ar rai myfyrwyr ac efallai y byddan nhw’n wynebu oedi wrth ddisgwyl eu marciau. Er na allwn ni ragweld pa fyfyrwyr y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith arnoch chi, gan weithio gyda’r Byrddau Arholi a sicrhau bod pob gradd yn cael ei dyfarnu, a hynny wrth gynnal safonau academaidd.

Bydd seremonïau graddio yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf heb newid. Os ydych chi wedi cael eich gwahoddiad, rhowch wybod i ni os hoffech chi ddod i’r seremoni, a dal ati i baratoi ar gyfer y diwrnod.

Mae'n ddrwg iawn gen i eich bod yn gorfod wynebu’r ansicrwydd hwn. Fodd bynnag, os yw’r streic hon yn effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael i chi bob amser. Os bydd angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr neu'r Ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.

Bydd eich Ysgol a minnau’n ysgrifennu atoch chi eto pan fyddwn ni’n gwybod rhagor. Tan hynny, mae mewnrwyd y myfyrwyr yn cynnwys llawer o wybodaeth am weithredu diwydiannol. Parhewch i gymryd rhan yn y broses dysgu a'ch addysgu, a sicrhewch eich bod yn cwblhau eich holl waith i’w asesu.

Cofion gorau,

Yr Athro Nicola Innes
Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Rhannu’r stori hon