Dyfarnu grantiau cynllun Springboard Academi'r Gwyddorau Meddygol i ddau ymchwilydd canser Prifysgol Caerdydd
10 Ebrill 2025

Mae dau ymchwilydd yn Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod yn dilyn dyfarnu cyllid cynllun Springboard Academi’r Gwyddorau Meddygol.
Ymchwilwyr canser sy'n datblygu triniaethau imiwnotherapi newydd yw Dr Carly Bliss a Dr Mat Clement. Mae'r ddau yn rhan o'r Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau ac yn cael eu hariannu'n rhannol gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.
Darlithydd Imiwnoleg Canser yw Dr Bliss ac mae ei hymchwil yn ymchwilio i'r defnydd o adenofeirysau, sy'n achosi heintiau feirysol cyffredin fel annwyd, yn asiantau imiwnotherapi canser. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu therapïau cyn-glinigol sy'n harneisio ac yn ailgyfeirio celloedd T gwrthfeirysol yn erbyn canser, yn ogystal â strategaethau ar ffurf brechlynnau canser sy'n defnyddio adenofeirysau yn frechlynnau i symbylu ymatebion imiwnedd gwrth-diwmor.
Cymrawd Ymchwil niwroimiwnoleg yw Dr Clement ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar glioblastoma (GBM), y math mwyaf cyffredin o ganser yr ymennydd yn achos oedolion. Mae GBM yn achosi tiwmorau ymosodol yn yr ymennydd ac nid oes triniaethau effeithiol ar hyn o bryd. Mae Dr Clement yn ymchwilio i rôl Celloedd T yn GBM ac a ellir 'mireinio' ymatebion imiwnedd i greu gwell imiwnotherapïau a gwella’r cyfraddau goroesi.

Rwy wrth fy modd bod Academi'r Gwyddorau Meddygol yn cefnogi fy ymchwil, a braint yw bod ymhlith y gwyddonwyr rhagorol sydd hefyd wedi cael y gefnogaeth hon. Bydd cyllid Springboard yn fy ngalluogi i ehangu fy ngrŵp ymchwil sy’n ymchwilio i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chanser drwy ddefnyddio feirysau i ysgogi'r system imiwnedd. Targed presennol yr ymchwil hon yw canser pancreatig a chanserau'r pen a'r gwddf. Yn y tymor hwy rwy'n gobeithio ehangu ein dulliau imiwnotherapiwtig i ystod eang o diwmorau solet.
Mae rhaglen Springboard Academi y Gwyddorau Meddygol yn cefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n arloesi ac yn mynd i'r afael â heriau iechyd o bwys. Mae'r cylch hwn wedi cefnogi 62 o wyddonwyr addawol ledled 41 o sefydliadau'r DU, gan gynnwys dau ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd pob ymchwilydd yn derbyn £100,000-£125,000 dros gyfnod o ddwy flynedd yn ogystal â mentora a chymorth datblygu gyrfa er mwyn eu helpu i sefydlu gyrfa ymchwil annibynnol.

Rwy ar ben fy nigon fy mod i wedi cael y cyllid hwn gan Academi'r Gwyddorau Meddygol. Bydd y cyllid yn fy ngalluogi i ymchwilio i rai o'r prif resymau pam mae gan Glioblastoma (GBM), sy’n ganser yr ymennydd na ellir ei drin ac yn un o’r canserau sydd â’r cyfraddau goroesi isaf, rwydd hynt i dyfu heb unrhyw beth i’w atal yn yr ymennydd. Gyda lwc, bydd hyn yn llywio ffyrdd newydd a fydd yn fy ngalluogi i ddylunio imiwnotherapïau mwy effeithiol ar gyfer GBM, gan roi gobaith newydd i gleifion sydd â'r clefyd dinistriol hwn.

Rydyn ni wrth ein boddau bod y dyfarniad o bwys hwn yn cydnabod dwy o'n sêr newydd yn y Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau. Mae Carly a Mat yn datblygu rhaglenni ymchwil arloesol ym maes Imiwno-oncoleg, a chyllid Springboard Academi y Gwyddorau Meddygol fydd y llwyfan perffaith iddyn nhw ddatblygu eu hymchwil er mwyn gwella bywydau'r rheini y mae canser yn effeithio arnyn nhw.
Cefnogir rhaglen Springboard gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU, Wellcome a Sefydliad Prydeinig y Galon ac mae cylch cyllido eleni, sef y mwyaf erioed, yn nodi degawd o ddyfarniadau cyllid gan Springboard. Dyma gyfanswm buddsoddiad yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil gwerth £43.8 miliwn ers lansio'r cynllun yn 2015.