Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

10 Ebrill 2025

Man posing for a headshot

Pennaeth newydd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yw’r Athro Luke Sloan.

Mae’r Athro Sloan yn awdur cyhoeddedig dylanwadol yn y gwyddorau cymdeithasol sy’n dod â degawdau o brofiad ac arbenigedd i’r rôl.

Cyn cael ei benodi, roedd yr Athro Sloan yn Ddirprwy Bennaeth ar yr Ysgol ac yn gyfrifol am reoli llwyth gwaith academaidd, lles a datblygiad staff, mentora academaidd, ymsefydlu, a rhoi cymorth i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Mae ganddo dros 13 mlynedd o brofiad mewn cyhoeddiadau academaidd, ac mae gan yr Athro Sloan yr sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen i arwain yr Ysgol am flynyddoedd i ddod.

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ymgymryd â swydd Pennaeth yr Ysgol, a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf am y cyfle hwn?

Ro’n i’n meddwl bod fy mhrofiad blaenorol yn yr uwch dîm rheoli wedi rhoi dealltwriaeth dda i fi o swydd Pennaeth yr Ysgol, ond yn ystod fy secondiad yn Bartner Academaidd ar gyfer llais y myfyrwyr, dechreuais i ddeall holl ehangder y swydd yn iawn.

Gwelais i bod nodiadau’n cael eu rhoi i Bennaeth yr Ysgol yn ystod cyfarfodydd y Tîm Addysg Uwch.

Dysgais i ragor am y Senedd, Cyfarfodydd Uwch Aelodau o Staff, ac yn bwysicaf oll sylweddolais i fod penaethiaid ysgol yn fwy na gweinyddwyr a rheolwyr yn unig. Sylweddolais i eu bod nhw’n chwarae rôl allweddol wrth fod o gymorth i eraill, wrth ddweud gwirioneddau wrth y rhai sydd mewn grym, a dylanwadu ar y brifysgol ar y lefel uchaf. Mae penaethiaid ysgolion yn pontio’r bwlch ac yn trosi gwybodaeth, ac mae ganddyn nhw annibyniaeth sylweddol, hyd yn oed ar hyn o bryd, i wneud newidiadau y maen nhw’n meddwl y bydd yn helpu’r ysgol a’r brifysgol i fod yn llwyddiannus. Unwaith i mi ddeall y rôl ddylanwadol sydd ganddyn nhw, a phan sylweddolais i eu bod nhw’n bobl sy’n chwarae rhan allweddol o ran newid, dyna sut y cefais i fy ysbrydoli i ymgeisio am y swydd, a dyna beth rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf.

A allwch chi rannu ychydig am eich cefndir a sut mae eich profiadau blaenorol wedi eich paratoi chi ar gyfer y swydd hon?

Rwy wedi gwneud sawl swydd rheoli ac arwain dros y blynyddoedd diwethaf. Ro’n i’n Gyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, ac ymunais i â’r Tîm Uwch-Reolwyr hanner ffordd drwy’r swydd honno. Yna symudais ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu. Yna gwnes i secondiad yn gweithio dan arweiniad y Rhag Is-ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yn Bartner Academaidd ar gyfer Llais y Myfyrwyr - swydd ag iddi gyfrifoldeb dros y sefydliad cyfan. Pan ddaeth y swydd honno i ben, es i nôl i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol.

Beth sydd bwysicaf i chi yn eich swydd yn Bennaeth yr Ysgol?

Bod staff a myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ffynnu, ac fel cymuned ein bod ni’n ymwybodol mai mewn undod y mae nerth.

Rhagor o wybodaeth am Yr Athro Sloanac am Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Rhannu’r stori hon