Cyn-fyfyrwraig yn cipio gwobr RPS
9 Ebrill 2025

Enillodd Sarah Lianne Lewis, cyfansoddwraig o Gymru a chyn-fyfyrwraig o’r Ysgol Cerddoriaeth, gwobr Chamber-Scale Composition yng ngwobrau’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol (RPS) 2025 am ei gwaith Letting the Light In.
Mae Gwobrau’r RPS, sef un o’r nosweithiau mwyaf arwyddocaol ym maes cerddoriaeth y DU, yn dathlu effaith ragorol cerddorion a chyfansoddwyr ledled y wlad. Eleni, cynhaliwyd y gwobrau ar 6 Mawrth yn y Conservatoire Frenhinol Birmingham.
Cafodd cyfansoddiad arobryn Sarah ei greu yn rhan o fenter Beyond Borders, Beyond Barriers gan Drake Music Scotland a’r Disabled Artist Network. Mae’n myfyrio ar ei phrofiad personol hi o fod yn fam am y tro cyntaf, yn ceisio cydbwyso gyrfa gyda chyfrifoldebau gofalu, ac effaith hynny ar ei hanabledd.
Gellir gwrando ar y darn, sy’n berfformiad piano unigol, ar yr albwm cyntaf erioed i gynnwys cyfansoddwyr anabl o’r DU. Cynhyrchwyd yr albwm gan NMC Recordings.
Mae gwaith Sarah yn adnabyddus am ei strwythurau effeithiol a’r ffordd y mae’n ymdrin yn ystyriol â themâu sensitif, ac mae’r ganmoliaeth ddiweddaraf yn ailddatgan ei bod hi’n ffigur blaenllaw ym maes cyfansoddi modern.
Mae ei llwyddiant yng ngwobrau’r RPS yn tynnu sylw at bobl ddawnus Cymru, ac yn pwysleisio pwysigrwydd cynwysoldeb a chynrychiolaeth ym maes cerddoriaeth glasurol.
Dywedodd Dr Nick Jones - Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Rwy’n falch dros ben bod cyfansoddiad piano Sarah, letting the light in, wedi ennill y wobr fawreddog hon. Dyma gydnabyddiaeth o statws Sarah yn un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn falch iawn o’i chyflawniad arbennig!”