Hanesydd yn datgelu hyd a lled cyfraniad Josephine Baker at y frwydr yn erbyn Natsïaeth ac i amddiffyn Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd
11 Ebrill 2025

Mae arbenigwr o Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod y seren ryngwladol Josephine Baker wedi defnyddio ei henwogrwydd i fod yn ysbïwr cudd heb i neb sylwi yn ystod y rhyfel.
Roedd Josephine Baker, Americanwr Affricanaidd a ddaeth yn ddinesydd Ffrengig, yn enw cyfarwydd erbyn yr Ail Ryfel Byd – ac roedd yn un o'r perfformwyr a fu'n diddanu milwyr yn Llundain ar gyfer dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Ond nid yw ei bywyd cyfrinachol tra’n helpu ymdrech y rhyfel erioed wedi'i ddeall yn llawn – tan nawr.
Mae’r Athro Hanna Diamond, o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, yn esbonio: “Roedd Josephine Baker yn amryddawn – dechreuodd fel dawnswraig a llwyddodd ei pherfformiadau i ddal sylw cynulleidfaoedd ym Mharis. Dysgodd i ganu ac aeth ymlaen i fod yn actores ffilm. Hi oedd un o'r sêr rhyngwladol cyntaf mewn gwirionedd.
“Ond yr hyn sy’n wirioneddol ryfeddol amdani yw’r ffordd y gwnaeth hi ddefnyddio’r enwogrwydd hwnnw i gynorthwyo’r Cynghreiriaid a’r Gwrthsafiad Ffrengig. Doedd hi ddim y math o berson fyddech chi'n ei gysylltu â bod yn ysbïwr; ble bynnag yr aeth hi roedd tyrfaoedd enfawr o bobl. Roedd ei henwogrwydd yn golygu y gallai symud o gwmpas yng ngolwg pawb.
“Byddai diplomyddion yn siarad â hi oherwydd eu bod wedi eu swyno gan ei henwogrwydd a gallai gasglu’r wybodaeth hon a’i throsglwyddo i bobl y byddai’n ddefnyddiol iddynt. Byddai hi’n gwneud nodyn a hyd yn oed yn cadw nodiadau gyda hi, oherwydd, fel y dywedodd, 'pwy fyddai'n meiddio chwilio Josephine Baker'.
“Roedd ganddi ddealltwriaeth wirioneddol o beryglon Natsïaeth; daeth ar draws hiliaeth eu hideoleg yn gynnar iawn. Fe wnaeth hefydd briodi Ffrancwr oedd yn Iddewig felly roedd ganddi lawer o gysylltiad ag Iddewiaeth.
Roedd hi’n teimlo’n hynod ddyledus i’r Ffrancwyr. Roedden nhw wedi ei gwneud hi’n seren ac yn ystod y rhyfel roedd hi’n teimlo y dylai ddefnyddio ei sefyllfa i dalu hynny’n ôl ac amddiffyn ei gwlad fabwysiedig.
Gan dynnu ar ymchwil newydd helaeth a deunydd nas gwelwyd o'r blaen, mae llyfr yr Athro Diamond, Josephine Baker's Secret War: The African American Star Who Fought for France and Freedom, yn manylu ar arwyddocâd cyfraniad Baker yn ystod y rhyfel yn ei gyfanrwydd.
Treuliodd flynyddoedd y rhyfel yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, gogledd Affrica, a’r Dwyrain Canol, lle bu’n diddanu poblogaethau lleol a milwyr y Cynghreiriaid tra’n casglu a throsglwyddo gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau cudd Prydain, America a Ffrainc.
Yn fenyw o liw yn gweithredu mewn amgylchedd gwrywaidd gwyn, rhoddodd ei hapêl ryngwladol fel diddanwr fynediad iddi at amrywiaeth o gylchoedd cymdeithasol a milwrol, gan ei galluogi i roi gwybodaeth bwysig i'r Cynghreiriaid. Cynorthwyodd y fyddin Americanaidd i ganfod asiantau'r gelyn ac roedd yn wynebu peryglon sylweddol wrth iddi gyflawni ei thasgau.
Meddai’r Athro Diamond: “Allwn ni ond edmygu dewrder Josephine Baker - roedd hi’n hynod graff yn y ffordd yr oedd hi’n ymddwyn yn y cyfnod hwn. Yn ogystal â chaffael gwybodaeth drwy ei chysylltiadau breintiedig a'i throsglwyddo heb amheuaeth, bu hefyd yn hwyluso symudiad eraill a oedd yn teithio'n gudd gyda hi ac roedden nhw’n gallu pasio heb i neb sylwi.
“Ar ôl i’r Cynghreiriaid lanio yng ngogledd Affrica yn hwyr ym 1942, fe wnaeth hi sawl taith o gwmpas gwersylloedd, a gwneud taith ryfeddol ar draws y Dwyrain Canol, gan ysbïo dros y Ffrancwyr tra’n codi arian i’r Gwrthsafiad Ffrengig. Roedd hi'n cario cryn faich ar ei phen ei hun ac fe wnaeth hi lwyddo, gan weithredu mewn amodau anodd a pheryglus iawn.
“Mae’n amlwg bod cyfnod y rhyfel wedi bod yn hynod ddylanwadol o ran hybu ei gweithgareddau gwrth-hiliaeth yn Ffrainc ar ôl y rhyfel, yn ogystal â’i gwaith ymgyrchu dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach.
“Wyth deg mlynedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae’n amser addas iawn i ni gofio’r ymdrechion yr aeth pobl iddyn nhw yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth. Mae Josephine Baker yn unigolyn unigryw ond mae ei stori yn un bwysig, sy’n dangos yr aberthau personol a wnaed ar y cyd i gyfrannu at achos mwy.”
Rhannu’r stori hon
Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.