Darganfod gwaith coll gan gyfansoddwr enwog o Ffrainc yng Nghymru a’i berfformio am y tro cyntaf
10 Ebrill 2025

Mae academydd o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi darganfod gwaith coll gan y cyfansoddwr Ffrengig, Darius Milhaud, sy'n enwog am fod yn aelod o'r grŵp Les Six.
Darganfu'r Athro Caroline Rae, sy’n bianydd ac yn arbenigwr o fri rhyngwladol ar gerddoriaeth Ffrengig yr ugeinfed ganrif, y llawysgrif anhysbys yng Nghymru, ac ar y cyd â'i myfyriwr PhD, James Brookmyre, trefnodd première byd y gwaith yn Neuadd Gyngerdd y Brifysgol.
Ym mis Tachwedd 1920, daeth Darius Milhaud a'r bardd, Jean Cocteau, at ei gilydd i greu anrheg pen-blwydd i'w cyfaill, Audrey Parr (1892-1940), dylunydd llwyfan a menyw ifanc gyfareddol oedd yn wraig i ddiplomydd o Brydain. Cyfarfu Milhaud â hi am y tro cyntaf yn Rio de Janeiro drwy'r bardd Paul Claudel. Ysgrifennodd Cocteau gerdd swrealaidd ffraeth, a gosododd Milhaud hi i gerddoriaeth ar gyfer soprano a saith offeryn. Daethpwyd o hyd i'r gwaith yn Aberhonddu yng nghartref wyres Parr, Laetitia Jack.
Dywedodd yr Athro Rae: “Nid bob dydd y mae gwaith anhysbys gan gyfansoddwr enwog o Ffrainc yn cael ei ddarganfod, heb sôn am yng Nghymru. Mae'r darn gogoneddus hwn yn drysor go iawn ac yn dangos nodweddion mwyaf dyfeisgar ac arbrofol Milhaud. Mae'n taflu goleuni newydd ar ddatblygiad arddull Milhaud. Mae’n dangos gwir hoffter o Audrey Parr, ffigwr anghofiedig o'r avant-garde Ffrengig yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd,
a gydweithiodd â Milhaud a Claudel ar sawl achlysur. Cyflwynwyd sawl darn o gerddoriaeth iddi gan Poulenc. Mae'r darganfyddiad yn bluen yn het Prifysgol Caerdydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Laetitia Jack, perchennog y llawysgrif, am roi caniatâd i ni ei pherfformio am y tro cyntaf.”
Meddai Laetitia Jack: “Roedden ni wedi rhyfeddu ac wrth ein bodd o gael dod o hyd i'r llawysgrif ar ôl iddi fynd ar goll am tua 40 mlynedd. Doedden ni erioed wedi meddwl y bydden ni’n llwyddo cael criw o gerddorion ynghyd i'w chwarae, ac rydyn ni felly’n hynod ddiolchgar i Caroline Rae a James Brookmyre. Mae'n swnio'n wych. “Dw i methu’r credu peth. Rydyn ni wirioneddol wrth ein bodd, ac rwy'n falch y cafodd y darn hwn ei gyfansoddi ar gyfer fy Mam-gu.”
Roedd y perfformwyr yn cynnwys cydweithwyr yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Phedwarawd Llinynnol Bodman: Clair Rowden (soprano), Gabbi Alberti (ffliwt), James Brookmyre (clarinét), Jaroslaw Augustyniak (basŵn), Robert Fokkens (ffidil), Charles Bodman-Whittaker (fiola), Claudine Cassidy (sielo) a Jordan Williams (bas dwbl).
Mae nifer o gyhoeddiadau yr Athro Rae yn cynnwys astudiaethau o Jolivet, Messiaen, Dutilleux, Ohana a Debussy, yn ogystal â dau fonograff a thair cyfrol wedi’u golygu. Cafodd ei phenodi'n Chevalier de l'Ordre des Arts et des Lettres gan Lywodraeth Ffrainc yn 2018.
Gellir gweld y première byd a'r colocwiwm yma: https://tinyurl.com/DariusMilhaud
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.