Dr Jan Machielsen yn ennill gwobr am y llyfr gorau ar hanes Ewrop
7 Ebrill 2025

Mae Dr Jan Machielsen, hanesydd blaenllaw ym maes dewiniaeth a demonoleg fodern gynnar wedi ennill gwobr am y llyfr gorau ar hanes Ewrop.
The Basque Witch-Hunt: A Secret History yw ei drydydd monograff, a enillodd y wobr yng nghategori Hanes Ewrop yng Ngwobrau PROSE 2025 yr Unol Daleithiau.
Mae'r llyfr, a gyhoeddwyd yn 2024, yn trin a thrafod y gwir y tu ôl i un o destunau mwyaf syfrdanol Ewrop fodern gynnar ar ddewiniaeth. Y barnwr o Bordeaux, Pierre de Lancre, a ysgrifennodd y testun ar y cyd â chydweithiwr yng Ngwlad y Basg yn Ffrainc.
Mae Tableau de l’inconstance des mauvais anges at demons (Darlun o anwadalwch angylion a chythreuliaid drwg), 1612 yn cynnwys rhai o’r disgrifiadau mwyaf manwl o’r sabat (cyfarfodydd tybiedig gwrachod yn ystod y nos i addoli’r diafol), gan lywio sut mae haneswyr wedi dod i ddehongli erlid gwrachod yn yr oes fodern gynnar.
Bwriad llyfr Dr Machielsen yw ceisio darganfod beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn rhan o’r achos hwn o erlid gwrachod, sef yr un mwyaf difrifol yn hanes Ffrainc. Pan enillodd y wobr, dywedodd: “Mae'r wobr hon yn anrhydedd sylweddol, o ystyried pa mor eang yw maes hanes Ewrop, ac oherwydd y llyfrau arbennig sydd wedi ennill y wobr mewn blynyddoedd blaenorol.
Doedd gen i ddim syniad bod fy llyfr hyd yn oed wedi’i ystyried ar gyfer y wobr nes i Rhodri Mogford, Cyfarwyddwr Golygyddol Bloomsbury Publishing, gysylltu â fi gyda’r newyddion gwych.
Dr Machielsen oedd un o’r 37 o enillwyr categori ar gyfer cyhoeddiadau ysgolheigaidd ac ymchwil ym meysydd y gwyddorau bywyd a biolegol, y dyniaethau, y gwyddorau ffisegol, mathemateg a’r gwyddorau cymdeithasol.
O ran gwaith yn y dyfodol, dywedodd: “Rwy'n gweithio ar sawl prosiect arall, gan gynnwys dilyn trywydd stori am dŷ ag ysbrydion yn Burgundy yn nwyrain Ffrainc yr holl ffordd i Gymru.
“A dweud y gwir, mae dewiniaeth yn faes ymchwil tywyll, felly rwy hefyd yn datblygu diddordebau newydd. Yn ddiweddar, rwy wedi bod yn gweithio’n fwy ar seintiau – ar sut gafodd pobl eu hystyried yn arbennig o dda neu’n sanctaidd, yn hytrach nag yn eithriadol o ddrwg.”
Rhagor o wybodaeth am Dr Machielsen, ei lyfr sydd wedi ennill gwobrau ac astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd