Prifysgol Caerdydd yn cynnal partneriaeth diwydiant arloesol i hyrwyddo economi gylchol yng Nghymru
4 Ebrill 2025

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad arwyddocaol gyda’r nod o hyrwyddo’r economi gylchol yng Nghymru drwy feithrin partneriaeth rhwng y byd academaidd, diwydiant a llywodraeth.
Roedd y digwyddiad y bartneriaeth rhwng y Brifysgol a byd diwydiant ar gyfer Cymru Gylchol, a drefnwyd gan Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ac a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH), yn gyfle unigryw i fusnesau ystyried atebion blaengar i gyflawni nodau cynaliadwyedd.
Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yn gyfle i fusnesau o bob maint ymgysylltu â gwyddonwyr blaenllaw Prifysgol Caerdydd i ystyried syniadau arloesol posibl i leihau eu heffaith amgylcheddol, trafod pennu gwerth gwastraff drwy gatalysis, a manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd adnoddau. Rhannwyd cyfleoedd ariannu gyda’r rhai a oedd yn bresennol er mwyn cefnogi ymchwil ar y cyd, ac roedd personau allweddol o Innovate UK a Llywodraeth Cymru yno’n cynnig safbwyntiau gwerthfawr.
Pwysleisiodd Dr. M. Sankar arwyddocâd digwyddiad y bartneriaeth rhwng y Brifysgol a’r diwydiant ar gyfer Cymru Gylchol, gan nodi, “Mae ein digwyddiad yn gyfle i bontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, ac yn fodd i weithio ar y cyd er mwyn hybu'r economi gylchol yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr atebion arloesol a fydd yn deillio o'r bartneriaeth hon, gan helpu busnesau i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd."
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys un a oedd yn trin a thrafod rhaglen Cymru’n Arloesi Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o greu Cymru gryfach, wyrddach, a thecach. Bu arweinwyr y diwydiant, megis Mr Mark Lewis a Ms. Julie Cunnington-Hill o Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, yn trafod sut mae'r mentrau hyn yn llunio dyfodol cynaliadwy'r wlad.
Roedd yr agenda hefyd yn cynnwys cyflwyniadau ar brosiectau ar y cyd penodol yn y diwydiant, megis Pennu Gwerth Gwastraff Coffi drwy Gatalysis, partneriaeth rhwng Sefydliad Catalysis Caerdydd a Grounds for Good, a ddangosodd ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â gwastraff mewn ffordd gynaliadwy.
Yn rhan o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i greu economi gylchol wydn, dyma a ddywedodd yr Athro Stuart Taylor, Cyfarwyddwr y CCI, "Rydyn ni’n croesawu'r cyfle i arddangos y cyfleusterau ymchwil ac arbenigedd blaengar sydd gan Sefydliad Catalysis Caerdydd yn y Ganolfan Ymchwil Drosi newydd, gan gynnig yr offer sydd eu hangen ar fusnesau i gynnig atebion arloesol ar gyfer pennu gwerth gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau."
Roedd y digwyddiad yn brofiad rhwydweithio gwerthfawr i bawb a oedd yn bresennol, gan gynnwys busnesau newydd bach a chorfforaethau mawr. Roedd gan y rhai a oedd yn bresennol a’r rhai a gymerodd ran gyfle unigryw i fanteisio ar gyfleusterau ac arbenigedd ymchwil o’r radd flaenaf, gan helpu Cymru i barhau ar flaen y gad o ran datblygiadau’r economi gylchol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal llawer mwy o ddigwyddiadau cynhyrchiol, gan ddod â rhanddeiliaid o’r llywodraeth, y diwydiant a’r byd academaidd ynghyd i gefnogi’r broses o bontio i ddyfodol gwyrddach, glanach a mwy llewyrchus.