Dyn o Gaint yn rhwyfo ar draws yr Iwerydd er cof am ei wraig
3 Ebrill 2025

Ar ôl 53 diwrnod heriol ar y môr, mae Darren Smith ac aelodau eraill o’r tîm wedi cwblhau her anhygoel o rwyfo 3,200 milltir ar draws yr Iwerydd yn llwyddiannus.
Yn dilyn misoedd o hyfforddiant dwys ac ar ôl gorfod gohirio’r her oherwydd tywydd gwael, cychwynnodd Darren, sydd o Chatham, Caint, ar ei daith o Lanzarote ar 1 Chwefror gyda Pete Ross, Neil Glover, a Nick Southwood. Mae’r criw bellach wedi cyrraedd Antigua ar ôl gwthio eu hunain i’r eithaf ac wynebu rhai o’r amgylchiadau anoddaf y gellir eu dychmygu.
Roedd y daith yn un heriol dros ben. Bu’n rhaid i’r tîm frwydro yn erbyn stormydd, pothelli poenus, salwch môr, a materion technegol, gan rwyfo mewn sifftiau o dair awr drwy’r dydd a nos. Wrth wynebu blinder a natur anrhagweladwy yr Iwerydd, buon nhw’n teithio ochr yn ochr â llongau cargo enfawr ar lwybrau cludo eang. Ond er gwaethaf yr anawsterau, roedd yna eiliadau hudolus hefyd, megis machlud haul godidog, gweld morfilod a dolffiniaid, a'r cyfeillgarwch a'u cadwodd i fynd.
Ymgymerodd Darren â'r gamp ryfeddol hon er cof am ei wraig i godi arian ar gyfer Canolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybyddiaeth (CDoC) Prifysgol Caerdydd. Yn 2019, yn dilyn llawdriniaeth i dynnu tiwmor ar yr ymennydd, dioddefodd gwraig Darren, Jenny, anaf difrifol i'w hymennydd a'i rhoddodd hi mewn coma.
Mae ymdrechion Darren wedi arwain at godi swm anhygoel o £13,600 i gefnogi gwaith hanfodol y Ganolfan i lywio penderfyniadau clinigol a chefnogi teuluoedd sy'n wynebu sefyllfaoedd torcalonnus gyda phobl sy’n annwyl iddyn nhw sydd wedi dioddef anafiadau difrifol i’r ymennydd.
Wrth fyfyrio ar yr her o rwyfo’r Iwerydd, dywedodd Darren: “Mae hwn wedi bod yn un o'r pethau anoddaf rwy erioed wedi'i wneud - yn gorfforol, yn feddyliol, ac yn emosiynol. Roedd yna eiliadau pan nad oeddwn i’n meddwl y gallwn i ddal ati, ond roedd gwybod pam roeddwn i'n gwneud hyn, a haelioni anhygoel pawb sydd wedi rhoi at yr achos, yn fy nghadw i fynd. Rwy’n gobeithio y byddai Jenny’n falch o’r hyn rwy wedi’i gyflawni er cof amdani. Hi oedd fy ysbrydoliaeth, ac rwy mor ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi gwneud y daith hon yn bosibl.”
Rhannodd yr Athro Jenny Kitzinger, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan CDoC, ei hedmygedd o gyflawniad Darren: “Rydyn ni llawn edmygedd o Darren a'r tîm am gwblhau her mor anhygoel. Mae ei natur benderfynol, ei gryfder a'i ddewrder yn ysbrydoledig. Bydd yr arian sydd wedi’i godi yn caniatáu i ni barhau â'n gwaith hanfodol yn cefnogi timau clinigol a theuluoedd wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau cymhleth ynglŷn â thriniaethau cynnal bywyd. Mae cyflawniad Darren yn dangos ei ymrwymiad i anrhydeddu ei wraig a helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.”
Mae taith Darren ar draws yr Iwerydd yn fuddugoliaeth bersonol ond hefyd yn ffordd bwerus o godi ymwybyddiaeth am yr heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth ymdrin ag anhwylderau ymwybyddiaeth hirfaith. Mae ei stori yn parhau i ysbrydoli, ac mae dal modd cyfrannu at yr achos.
I gyfrannu at ymdrechion codi arian Darren, ewch i'w dudalen JustGiving.
Rhannu’r stori hon
Mae yna nifer o ffyrdd hwylus a difyr gallwch godi arian – mae JustGiving yn ei gwneud hi’n hawdd cefnogi Prifysgol Caerdydd.