Ewch i’r prif gynnwys

Gallwch gyflwyno cais ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2025 nawr

3 Mawrth 2025

Bydd Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal ei phedwaredd Ysgol Haf ar-lein ym mis Gorffennaf eleni.

Cynhelir y cwrs tri diwrnod ar-lein rhwng dydd Llun 7 Gorffennaf a dydd Mercher 9 Gorffennaf yng ngofal tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y rhaglen yn trin a thrafod agweddau allweddol ar ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan gyfeirio at brofiadau ym meysydd epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth a datblygu ymyriadau. Bydd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau byr ar yrfaoedd ym maes ymchwil, pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, a sut gall y canfyddiadau lywio polisïau’r llywodraeth. Bydd cyfle i rwydweithio ar-lein gydag unigolion eraill sy’n cymryd rhan a’r siaradwyr.

“Mae'r tîm yn edrych ymlaen at gynnal ysgol haf arall ar ran Canolfan Wolfson. Nod ein rhaglen ar-lein yw cyflwyno ymchwil iechyd meddwl ieuenctid i'r rhai sy'n cymryd rhan, gan ganolbwyntio ar y gwaith amrywiol sy’n cael ei wneud yn y ganolfan.”
Dr Victoria Powell Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Bydd yr ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o'r radd flaenaf, a fydd yn rhoi cyflwyniadau ac yn cynnal gweithdai yn eu meysydd arbenigedd. Byddan nhw’n canolbwyntio ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a datblygu ffyrdd effeithiol o gynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.

Mae’n rhad ac am ddim i ddod i’r ysgol haf ac mae wedi’i hanelu at wyddonwyr ymchwil (myfyrwyr PhD, meistr neu ôl-ddoethurol neu fyfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn) neu hyfforddeion clinigol (hyfforddiant sylfaen/craidd/arbenigol) sydd â diddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, neu’r rhai sydd am gael cyflwyniad i’r maes.

“Rydyn ni’n eich annog chi i wneud cais am y cyfle hwn. Mae'r rhaglen yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am symud i faes iechyd meddwl ieuenctid mewn rolau ymchwil a chlinigol a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i ystod eang o bobl. Mae’r cyfnod ymgeisio yn dod i ben ddydd Llun 9 Mehefin 2025 ac edrychwn ymlaen at glywed gennych chi’n fuan!”
Dr Christopher Eaton Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Sut i wneud cais

I wneud cais i fynd i Ysgol Haf Canolfan Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan yr Ysgol Haf.

Darllenwch am brofiadau myfyrwyr o Ysgol Haf Canolfan Wolfson ar ein blog: