Arbenigwyr yn dod at ei gilydd i wella ymchwil ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru
3 Ebrill 2025

Mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag arbenigwyr ledled Cymru i ysgogi ymchwil i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yn nodi carreg filltir arwyddocaol wrth fynd i’r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd y genedl.
Wedi’i harwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru (PDC), a’r Samariaid, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn hybu rhagoriaeth ymchwil ac yn meithrin newid mewn polisi ac arfer ym maes atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Gan gydnabod y ffactorau niferus a chymhleth sy’n cyfrannu at atal hunanladdiad a hunan-niweidio, bydd y ganolfan yn dod â’r llywodraeth, asiantaethau’r sector cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, ymchwilwyr, pobl â phrofiad bywyd, a’r cyhoedd ynghyd i gefnogi’r rheini sydd mewn perygl, ac i achub bywydau.
Wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r Ganolfan yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £49 miliwn mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gyda dros £2 filiwn wedi’i neilltuo i ymdrechion atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd yr Athro Rhiannon Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r Ganolfan yn cynnig cyfle anhygoel i ni ddod â phartneriaid amrywiol ynghyd i ddatblygu syniadau newydd ac atebion arloesol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb inni gael mynd i’r afael â phryder iechyd cyhoeddus sydd mor bwysig yng Nghymru."
Dywedodd yr Athro Jonathan Scourfield, o Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion Prifysgol Caerdydd, a fydd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfrannu ein hymchwil ar gyd-destun cymdeithasol hunanladdiad a hunan-niweidio yn y ganolfan rhyngddisgyblaethol ddiddorol newydd hon."
Meddai Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru: “Mae gwir gynnydd o ran atal hunanladdiad yn dechrau drwy roi llwyfan i leisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd. Mae eu profiadau yn herio rhagdybiaethau, yn dyfnhau ein dealltwriaeth, ac yn ein gwthio i greu gwasanaethau atal a chymorth sydd wir yn adlewyrchu'r realiti y mae pobl yn ei hwynebu. Mae’r Ganolfan hon yn gyfle i sicrhau bod lleisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd yn ein arwain ar hyd pob cam o’r ffordd.”
Rhannu’r stori hon
Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.