Digwyddiad 'mae cyfieithu ac Ieithoedd yn bwysig' yn ystyried eu rôl ym maes ymchwil ac yn y gymdeithas
3 Ebrill 2025

Yn ddiweddar, croesawodd yr Ysgol Ieithoedd Modern gydweithwyr o Brifysgol Leeds a Phrifysgol Bryste i gymryd rhan mewn seminar sy’n edrych ar rôl cyfieithu ac ieithoedd mewn ymchwil a chymdeithas.
Trefnwyd y digwyddiad 'Mae cyfieithu ac ieithoedd yn bwysig' gan Dr Balsam Mustafa a myfyriwr PhD o’r Ysgol Ieithoedd Modern, Morgane Dirion. Ymunodd Dr Neil Sadler (Prifysgol Leeds) a Dr Carol O'Sullivan (Prifysgol Bryste) â grŵp dethol o ysgolheigion astudiaethau cyfieithu ac fe wnaethon nhw roi cyflwyniadau diddorol iawn ar y pwnc.
Yn ogystal â'r cyflwyniadau a roddwyd gan Dr Sadler a Dr O'Sullivan, clywodd yr unigolion oedd yn bresennol hefyd gan ddau o fyfyrwyr PhD yr Ysgol, Firial Benamer a Judy Murray. Dilynwyd y cyflwyniadau gan drafodaeth bwrdd crwn lle'r oedd y pynciau'n cynnwys: adrodd a dehongli straeon yn oes Twitter/X, cyfieithu clyweledol ac isdeitlo, ac ymchwilio i ddehongli gofal iechyd yn ne Cymru. Bu trafodaethau hefyd am brofiadau dysgu iaith y rhai sydd â Saesneg yn iaith ychwanegol, o fewn cyd-destun cwricwlwm newydd Cymru.
Roedd y digwyddiad yn fywiog ac yn rhyngweithiol, ac roedd yr unigolion oedd yn bresennol yn gwerthfawrogi’r cyflwyniadau craff a’r arddangosiad o’r ystod eang o ymchwil cyfieithu ac ieithoedd, yn ogystal â’r cyfle i amlygu ei rôl hollbwysig y tu allan i’r byd academaidd a’i bwysigrwydd i’r gymdeithas ehangach.